Ein Cynllun Corfforaethol hyd at 2030 - Ein datganiadau effaith a dangosyddion strategol drafft
Trosolwg
Mae ein gweledigaeth, ein cenhadaeth a'n hamcanion llesiant fel y’u nodir yn ein Cynllun Corfforaethol hyd at 2030 - Byd Natur a Phobl yn Ffynnu Gyda'n Gilydd yn dangos sut y bydd CNC yn cyfrannu at ddull gweithredu ‘Tîm Cymru’ i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur, hinsawdd a llygredd.
I ategu ein cynllun corfforaethol, rydym hefyd wedi datblygu datganiadau effaith a dangosyddion strategol i roi persbectif integredig ar berfformiad strategol.
Mae'r rhain, a ddatblygwyd ar y cyd ar draws y sefydliad drwy gydol 2023-24, yn manylu ar sut y byddwn yn parhau i weithredu’n unol â bwriad ein gweledigaeth, gan adrodd ein stori dros oes y cynllun corfforaethol.
Mae'r datganiadau effaith yn gosod yr uchelgais o ran yr hyn rydym am ei weld erbyn 2030 a thu hwnt, gan gydnabod na allwn fynd i'r afael â'r argyfyngau natur, hinsawdd a llygredd ar ein pen ein hunain ac y bydd angen gweithredu ar y cyd ar draws sectorau i wireddu newid cadarnhaol.
Mae'r dangosyddion strategol yn canolbwyntio ar y pethau hynny y gall CNC ddylanwadu'n uniongyrchol arnynt, gan ddefnyddio ei ysgogiadau a'i adnoddau – mae’r rhain yn fwriadol uchelgeisiol ac ymestynnol. Gyda'i gilydd, maent yn darparu persbectif strategol o gynnydd tuag at ein hamcanion llesiant a'r manteision lluosog sy'n deillio o'n gwaith.
Byddwn yn profi'r rhain yn 2024-25, gan eu defnyddio i fframio sesiynau archwiliad dwfn strategol Bwrdd CNC, gan fynd ati ar yr un pryd i ymgysylltu â phartneriaid i rannu dealltwriaeth a nodi cyfleoedd ar gyfer cydweithio. Byddwn yn eu cwblhau yn ystod hydref 2024 gyda’r nod o’u rhoi ar waith rhwng 2025-26 a 2030.
Datganiadau effaith
Mae chwe datganiad effaith wedi'u datblygu o amgylch ein tri amcan llesiant. Maent yn pennu’r uchelgais ar gyfer y newid rydym am ei weld ar gyfer natur a phobl erbyn 2030. Mae’r rhain yn cydnabod mai ein cyfrifoldeb ni fydd dangos tystiolaeth o rai elfennau, ac y bydd cyfrifoldeb am gyflawni elfennau eraill yn cael ei rannu gyda'n partneriaid.
Dyma nhw:
Effaith 1: Erbyn 2030: bod dirywiad bioamrywiaeth wedi'i atal; bod rheoleiddio effeithiol, adfer cynefinoedd ac atebion ar sail natur yn cyfrannu at ecosystemau sy’n gynyddol gydnerth gan alluogi addasu i newid, a bod o fudd i lesiant pobl.
Effaith 2: Erbyn 2030: bod gweithredu parhaus ar achosion, risgiau ac effeithiau'r newid yn yr hinsawdd yn golygu bod natur a phobl yn cael eu galluogi a'u grymuso i addasu, gan liniaru'r effeithiau ar lesiant pobl.
Effaith 3: Erbyn 2030: bod llygredd yn cael ei atal hyd yr eithaf drwy ddiwygio deddfwriaethol a rheoleiddio effeithiol, gan leihau niwed i fioamrywiaeth a llesiant pobl, a chan ysgogi rheoli a defnyddio adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Effaith 4: Erbyn 2030: bod mwy o weithredu ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol yn sicrhau'r buddion mwyaf o ran natur, hinsawdd a llygredd, ac yn lleihau anghydraddoldebau cymdeithasol.
Effaith 5: Erbyn 2030: bod gweithredu ar y cyd parhaus yn golygu bod unigolion a sefydliadau'n gwneud penderfyniadau integredig i fynd i'r afael â’r argyfyngau natur, hinsawdd a llygredd.
Effaith 6: Erbyn 2030: bod cyflawni ein gwerthoedd a'n hymddygiadau yn gyson yn CNC yn golygu bod cydweithwyr, partneriaid a chymunedau’n cael eu galluogi a'u grymuso i arloesi a chyflymu camau gweithredu.
Dangosyddion strategol
Er mwyn olrhain cynnydd wrth gyflawni'r effeithiau hyn ac i dynnu sylw at ble mae’r dylanwad mwyaf gennym, rydym wedi dewis deuddeg dangosydd strategol. Bydd y rhain yn ein galluogi i fonitro cynnydd dros amser ac maent yn cyd-fynd â sawl datganiad effaith, gan danlinellu ein dull integredig o fonitro ac adrodd.
DS 1: Cynyddu cyfran yr ecosystemau sy'n cael eu diffinio fel rhai gwydn
DS 2: Cynyddu cyfradd adfer cynefinoedd
DS 3: Cynyddu integreiddio gweithgareddau sy'n cefnogi adferiad natur yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru
DS 4: Lleihau cyfradd llygredd ar dir a llygredd sy'n mynd i mewn i gyrff dŵr
DS 5: Lleihau cyfradd llygredd i’r aer o ffynonellau diwydiannol ac anniwydiannol
DS 6: Lleihau cyfradd allyriadau nwyon tŷ gwydr a chynyddu cyfradd atafaelu cynaliadwy
DS 7: Cynyddu cyfran y boblogaeth sydd â mynediad at fannau gwyrdd neu las o ansawdd uchel, ac sy'n eu defnyddio'n gynaliadwy
DS 8: Cynyddu cyfran y boblogaeth sy'n byw mewn lleoedd a fydd yn parhau i gefnogi a chyfrannu at eu hiechyd a'u llesiant mewn hinsawdd sy'n newid
DS 9: Cynyddu effaith dulliau partneriaeth sy'n darparu manteision lluosog ac yn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol yr argyfyngau natur, hinsawdd a llygredd
DS 10: Cynyddu cyfran y boblogaeth sy'n gweithredu i liniaru ac addasu i'r argyfyngau natur, hinsawdd a llygredd
DS 11: Cynyddu cyfran y sefydliadau a'r busnesau sy'n gweithredu i liniaru ac addasu i'r argyfyngau natur, hinsawdd a llygredd
DS 12: Cynyddu cyfran y cydweithwyr yn CNC sy'n teimlo eu bod yn ymgysylltiedig, ac yn cael eu galluogi a'u grymuso
Mae'r cyfuniad o effeithiau; dangosyddion meintiol ac ansoddol; a naratif ategol yn darparu persbectif strategol o gynnydd tuag at ein hamcanion llesiant a'r manteision lluosog sy'n deillio o'n gwaith.
Mae'r adroddiad wedi'i drefnu’n bum adran a dylid ei ddarllen law yn llaw â'n cynllun corfforaethol. Rydym wedi paratoi datganiad dull hefyd.
Cyn y cyhoeddiad terfynol yn ddiweddarach yn y flwyddyn, mae'r dogfennau drafft manwl ar gael i'w hadolygu yma:
Datganiadau effaith a dangosyddion strategol drafft
Annex 2 Camau i'w cymryd i ddangosyddion strategol
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Fly-fishing
- Cockles
- Newport Green and Safe Spaces
- Rivers
- Flooding
- Llifogydd
- Community Volunteers
- Gwirfoddolwyr Cymunedol
- Management
- marine developers
- marine planners
- Network Completion Project Task and Finish Group
- South West Stakeholder group
- Citizens
- National Access Forum
- Gwent
- citizens
- water companies
- NFU
- DCWW
- Anglers
- Coal Authority
- Educators
- SoNaRR2020
- Mine recovery specialists
- Arbenigwyr adfer mwyngloddiau
- Metal mines
- Mwyngloddiau metel
- Coastal Group Members
- Wales Biodiversity Partnership
- Equality, Diversity and Inclusion
Diddordebau
- Species Licence
- Trwydded Rhywogaeth
- Regulatory Voice
- Permits
- Trwyddedau
- Llais Rheoleiddio
- Waste
- Flooding
- Llifogydd
- Community Voulnteering
- Gwirfoddoli Cymunedol
- Forest Management
- Rheoli Coedwig
- National Access Forum
- EIA
- Development
- Marine Protected Areas Network Completion Project
- South West Area Statement
- Newport Green and Safe Spaces
- Community Engagement
- Gwent
- WFD
- water framework directive
- water planning
- Dee
- river basin planning
- Fruitful Orchard Project
- Professional learning
- Acorn Antics
- Terrestrial ecosystems and species
- Fishing
- Biodiversity
- SoNaRR2020
- Engagement
- Customer Experience
- The Hub
- Customer Journey Mapping
- Consultation
- Stakeholder Management
- Mine recovery
- Adfer mwyngloddiau
- Metal mines
- Mwyngloddiau metel
- Timber sales
- Strategic review of charging
- Marine Area Statement
- Equality, Diversity and Inclusion
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook