Y Graig – gweithrediadau coedwig

Ar gau 28 Meh 2024

Wedi'i agor 14 Medi 2023

Trosolwg

I weld y dudalen yn Saesneg, cliciwch yma.

Pa waith sy'n digwydd?

Bydd gweithrediadau torri coed yng nghoetir y Graig yn dechrau ym mis Medi, i gael gwared ar ardaloedd o goed llarwydd fel rhan o’n polisi lleihau llarwydd ac i frwydro yn erbyn lledaeniad clefyd llarwydd. Hefyd bydd ardaloedd o goed aeddfed yn cael eu cwympo a'u teneuo yn unol â'r Cynllun Adnoddau Coedwig.

Bydd gweithrediadau teneuo hefyd yn digwydd yn ardal ogleddol y coetir, er mwyn helpu i gynyddu treiddiad golau drwy'r canopi coed ac i hyrwyddo tyfiant isdyfiant.

Bydd angen tynnu tua 17 hectar o goed a bydd y gwaith yn cymryd tua naw mis.

Pam rydyn ni'n teneuo coed?

Unwaith y bydd ardal o goed wedi aeddfedu i faint penodol, maent yn dechrau cystadlu â'i gilydd am faethynnau, dŵr a golau.

Mae teneuo’r coed yn helpu i leihau’r gystadleuaeth hon ac yn ein galluogi i gael gwared ar goed afiach a’r rhai nad ydynt yn tyfu’n dda.

Dyma un o’r gweithgareddau mwyaf buddiol y gellir ei wneud ar gyfer coedwig sy’n tyfu ac mae’n rhan hanfodol o gylchred y goedwig.

Ceir rhagor o wybodaeth am sut rydym yn gofalu am ein coedwigoedd:  Cylch bywyd ein coedwigoedd a'n coetiroedd 

Dysgwch fwy am ein dull o fynd i'r afael â chlefyd llarwydd a chlefyd (Chalara) coed ynn

Ailblannu

Rydym yn ymfalchïo mewn gwneud yn siŵr bod ein coedwigoedd yn cael eu cwympo mewn modd cyfrifol a chynaliadwy, er mwyn bodloni holl ofynion Safonau Coedwigaeth y Deyrnas Unedig a Safon Ardystio’r Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd (FSC) a’r Rhaglen Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC).

Bydd ein tîm coedwigaeth yn ailstocio’r safle yn unol â chynlluniau a gymeradwywyd, gydag amrywiaeth o rywogaethau’n arwain at goetir cryfach sy’n gallu gwrthsefyll bygythiadau o blâu a chlefydau a newid hinsawdd.

Mynediad i'r goedwig yn ystod gweithrediadau

Mae'n debygol y bydd yn rhaid i ni gau mynediad cyhoeddus i rai ardaloedd o’r goedwig pan fydd gweithrediadau'n cael eu cynnal, er mwyn caniatáu i'r gwaith gael ei wneud yn gyflym ac yn ddiogel.

Er nad ydym yn hoffi cau mynediad i’n coedwigoedd, sy’n cael eu mwynhau gan lawer, mae safleoedd cynaeafu byw yn hynod beryglus, ac mae hyn yn angenrheidiol i ddiogelu diogelwch ein staff, ein contractwyr, ac ymwelwyr â’r coetir.

Cadwch at yr holl hysbysiadau cau a dargyfeirio pan fyddant ar waith. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i darfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned leol.

Ceir rhagor o wybodaeth am ymweld â'n coedwigoedd yn ddiogel yma

Map yn dangos yr ardal yr effeithiwyd arni

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Ardaloedd

  • Graig

Cynulleidfaoedd

  • Management

Diddordebau

  • Forest Management