Workshop: The Control of Agriculture Pollution Regulations / Gweithdy: Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddiaeth
Overview
This is not an NRW organised event, it will be run and delivered by ADAS consultants
On the 20th of October 2023 Farm Consultants from ADAS will be providing a training workshop to help farmers comply with some of the requirements of the Control of Agriculture Pollution Regulations that apply in Wales.
Attendance at the event is free however spaces are limited.
Across the course of a 3 hour session attendees will be assisted to fill out the Welsh Government Nutrient Management Planning workbook, and produce Risk Maps for their holdings.
The event will be run at Raglan Livestock Market between 10:45 – 14:30, where a light lunch and refreshments will be provided.
Arrival at 10:45 to make a prompt 11:00 start.
Working lunch 12:30 – 13:00.
Finish at 14:00.
Attendees should leave the workshop having made significant progress on completing the Nutrient Management Planning Workbook and Risks Maps for their farms, and have the understanding to complete both in their own time.
At the end of the event there will be information and someone on hand to answer questions about the opportunities for fully funded capital works on farms benefitting farm resilience, sustainability, and safeguarding the environment. The document attached gives a brief outline of the works (not exclusive) and the area that is eligible.
Please note: signing up to this event does not guarantee a position at the workshop. Private invitations will be issued following interest. Further workshops are planned with dates yet to be identified.
-----------------------------------------------------------------------------------------------------------
Nid digwyddiad wedi'i drefnu gan CNC yw hwn, bydd yn cael ei gynnal a'i ddarparu gan ymgynghorwyr ADAS.
Ar 20 Hydref 2023 bydd Ymgynghorwyr Fferm o’r Gwasanaeth Datblygu a Chynghori Amaethyddol yn darparu gweithdy hyfforddi i helpu ffermwyr i gydymffurfio â rhai o ofynion y Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol sy'n berthnasol yng Nghymru.
Nid oes ffi ar gyfer y digwyddiad ond mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig.
Yn ystod sesiwn 3 awr o hyd, bydd mynychwyr yn cael cymorth i lenwi Llawlyfr Cynllunio Rheoli Maetholion Llywodraeth Cymru, a chynhyrchu Mapiau Risg ar gyfer eu daliadau.
Cynhelir y digwyddiad ym Marchnad Da Byw Rhaglan rhwng 10:45 – 14:30, lle darperir cinio ysgafn a lluniaeth.
Cyrraedd am 10:45 i gychwyn yn brydlon am 11:00.
Cinio gwaith 12:30 - 13:00.
Gorffen am 14:00.
Ar ôl y gweithdy, bydd y mynychwyr wedi gwneud cynnydd sylweddol ar gwblhau’r Llawlyfr Cynllunio Rheoli Maetholion a Mapiau Risg ar gyfer eu ffermydd, a bydd ganddynt y ddealltwriaeth i gwblhau’r ddau yn eu hamser eu hunain.
Ar ddiwedd y digwyddiad bydd gwybodaeth a rhywun wrth law i ateb cwestiynau am y cyfleoedd ar gyfer gwaith cyfalaf wedi’i ariannu’n llawn ar ffermydd sydd o fudd i wydnwch eich fferm, cynaliadwyedd, a diogelu’r amgylchedd. Mae'r ddogfen atodedig yn rhoi amlinelliad byr o'r gwaith (nad yw’n gyfyngedig i’r disgrifiad hwn) a'r ardal sy'n gymwys.
Sylwch: nid yw cofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn yn gwarantu lle yn y gweithdy. Bydd gwahoddiadau preifat yn cael eu hanfon yn dilyn diddordeb. Mae gweithdai pellach wedi'u cynllunio ond nid yw’r dyddiadau wedi’u trefnu eto.
Areas
- All Areas
Audiences
Interests
- Permits
Share
Share on Twitter Share on Facebook