Strategaeth Ddrafft ar gyfer Twf a Gwerth Cynaliadwy 2027-2031

Yn cau 8 Maw 2026

Ynni adnewyddadwy

Ein Strategaeth Ddrafft ar gyfer Twf a Gwerth Cynaliadwy 2027–2031 - dewis 'Ynni adnewyddadwy'

Ein drafft ymrwymiadau allweddol ar gyfer 2027-2031 yw:

  • Cytundeb enghreifftiol gyda Thrydan Gwyrdd Cymru: Byddwn yn parhau i weithio gyda Thrydan Gwyrdd Cymru ac yn datblygu ar hynny, gan alluogi cynlluniau ynni adnewyddadwy pellach ar y tir yn ein gofal. Byddwn yn gweithredu ein pecyn cymorth ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, a hefyd yn datblygu cytundeb defnydd tir yn ôl arferion gorau gyda Thrydan Gwyrdd Cymru i ddangos sut mae datblygu ynni adnewyddadwy yn ategu tir a natur.
  • Cyflawni cynlluniau cymeradwy: Byddwn yn galluogi ac yn cefnogi’r tri chynllun a ragwelir ar hyn o bryd: Clocaenog Dau, Sir Ddinbych; Glyn Cothi, Sir Gaerfyrddin; a Charreg Wen, Rhondda Cynon Taf.
  • Partneriaethau newydd: Byddwn yn parhau i weithio gyda datblygwyr a grwpiau cymunedol eraill i hwyluso cytundebau trydydd parti a chynlluniau ynni adnewyddadwy sy’n bodloni safonau amgylcheddol uchel ac yn cyflawni amcanion Llywodraeth Cymru.
  • Astudiaethau achos fel arddangoswyr: Byddwn yn datblygu ac yn cyhoeddi astudiaethau achos i hyrwyddo cydweithio, ac yn eu defnyddio i feithrin hyder ynom ni ymhlith y diwydiant ynni adnewyddadwy a chreu cyfleoedd yn y dyfodol.
  • Adrodd ar berfformiad ar gynlluniau cyfredol: Byddwn yn cyhoeddi ystadegau (e.e. allbynnau megawat a chyflawniad creu coetiroedd) ar gyflawniadau ynni adnewyddadwy cyfredol ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod 2021–2026. Bydd hyn yn dangos gwerth ein gwaith hwyluso cynlluniau ynni adnewyddadwy.

  • Rhagolygon prosiectau hyd at 2031: Byddwn hefyd yn cyhoeddi rhagolwg o brosiectau ynni targed hyd at 2031 ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Bydd pob cynllun yn cael ei werthuso gan ddefnyddio ein pecyn cymorth ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gan ddangos ein dull o alluogi rheolaeth gynaliadwy o’n hadnoddau naturiol wrth gyfrannu at dwf economaidd a gwerth i Gymru.

  • Llawlyfr y datblygwr: Byddwn yn cyhoeddi llawlyfr i ddatblygwyr, ochr yn ochr â’n cynllun gweithredu, i gefnogi datblygwyr sy’n dymuno cydweithio â ni. Bydd hyn yn nodi’r safonau gofynnol, gan gynnwys Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, ac yn cynnwys gwybodaeth am ein prosesau gwneud penderfyniadau.
  • Offeryn rhagweld ariannol: Byddwn yn datblygu offeryn rhagweld ar gyfer incwm ynni adnewyddadwy ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, i gefnogi hyfywedd ariannol a rheolaeth ddoeth o’n hadnoddau.
  • Llywodraethiant symlach: Byddwn yn adolygu sut y gallwn symleiddio a gwella gweithdrefnau llywodraethiant, lle bo’n briodol, er mwyn gwella ymatebolrwydd ac effeithlonrwydd.
A ydych chi'n cytuno y bydd ein cynnig i ddatblygu a chyhoeddi canllawiau ar gyfer datblygwyr ac astudiaethau achos o'n gwaith gyda phartneriaid eraill yn ymwneud รข datblygiadau ynni adnewyddadwy o werth i chi?
Rydym wedi gweithio gyda'r sector ynni adnewyddadwy ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ers rhai blynyddoedd ac rydym bob amser yn chwilio am gyfleoedd i wella'n barhaus. Pa feysydd o'n gwaith ym maes ynni adnewyddadwy hoffech chi i ni eu blaenoriaethu a pham?
A ydych chi'n teimlo bod unrhyw feysydd ffocws ar goll o dan ein blaenoriaethau yn y sector ynni adnewyddadwy? Rhestrwch nhw.