Strategaeth Ddrafft ar gyfer Twf a Gwerth Cynaliadwy 2027-2031

Yn cau 8 Maw 2026

Gwerthiannau pren a marchnata

Ein Strategaeth Ddrafft ar gyfer Twf a Gwerth Cynaliadwy 2027–2031

Ein drafft ymrwymiadau allweddol ar gyfer 2027-2031 yw:

  • Llywodraethiant, safonau: Byddwn yn parhau i reoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn unol â Safon Coedwigaeth y DU (UKFS), a archwilir yn flynyddol fel y nodir yn Safon Sicr Coetiroedd y DU (UKWAS). Byddwn yn cadw gwiriad annibynnol gan y Rhaglen Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC) a’r Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd (FSC®). Byddwn yn cymhwyso ac yn esblygu ein Safon Llywodraethiant Gwerthiannau Pren, er mwyn sicrhau gwerthiant pren diogel, hygyrch, teg, agored, cystadleuol a thryloyw.
  • Cyfaint y farchnad: Byddwn yn cynyddu cyfaint y pren sy’n cael ei gynaeafu o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.  Byddwn yn nodi ble mae arnom angen mwy o fuddsoddiad ar yr ystad i alluogi mynediad i ddiwydiant ar gyfer mwy o bren. Bydd hyn yn cynnwys cynllun gweithredu a chynigion a chyfleoedd ariannu.
  • Cynhyrchu a rhagweld: Byddwn yn sicrhau bod cynhyrchu pren yn parhau i fod yn amcan yn ein cynlluniau adnoddau coedwigoedd er mwyn dadansoddi’n barhaus ein stoc gynyddol o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Byddwn yn parhau i ddarparu rhagolwg cynhyrchu pren cywir i lywio argaeledd yn y dyfodol a sicrhau buddsoddiad a thwf yn y diwydiant prosesu pren.
  • Ymrwymiad i werth ar y farchnad: Byddwn yn ymrwymo i gyfaint pren i’w gludo i’r farchnad, yn unol â Rhagolwg Cynhyrchu Prydain Fawr 2026–2031, gan gynnig ymrwymiad i’r sector prosesu pren wrth sicrhau ein bod yn gwella’r amgylchedd i bobl Cymru a byd natur.
  • Gwerthiannau a marchnata: Byddwn yn parhau gyda’r gwerthiant sefydlog fel y model contract a ffefrir ar gyfer cyflawni rhaglenni cynaeafu, gyda rhywfaint o gynaeafu cynhyrchiol uniongyrchol lle mae angen mwy o reolaeth. Byddwn yn marchnata digwyddiadau e-werthu tendr agored yn ystod cyfnod y cynllun hwn ac yn archwilio dulliau amgen o werthu pren.
  • Gwydnwch: Byddwn yn datblygu cynlluniau risg hyblyg ar gyfer digwyddiadau arwyddocaol, fel ym maes iechyd planhigion, coed a chwalwyd gan y gwynt, a marchnadoedd, ac i gynnwys cydweithio â chontractwyr a phroseswyr. Byddwn yn cyhoeddi datganiad ailstocio er gwydnwch ar gyfer y farchnad, gan gydweithio â Forest Research ar dreialon o rywogaethau conwydd cynhyrchiol ehangach.
  • Diogelwch: Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â’r sector coedwigaeth i hyrwyddo a gwella safonau diogelwch, iechyd a llesiant.
  • Gweithio mewn partneriaeth: Byddwn yn cydweithio â’n staff, partneriaid, rhanddeiliaid, grwpiau diwydiant, cwsmeriaid a chymunedau i rannu ein mewnwelediad, gwybodaeth ac arbenigedd ar y cyd; yn meithrin ymddiriedaeth; ac yn gweithio gyda’n gilydd ar nodau a rennir.
  • Adrodd ar berfformiad: Byddwn yn cyhoeddi adroddiadau, diweddariadau a chyflawniadau amserol o’r Cynllun Pren a Marchnata hwn er mwyn cynnal hyder y farchnad yn y cyflenwad.
Pa mor bwysig yw ardystiad coedwigaeth annibynnol ar gyfer Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu'r diwydiant coed a chadw hyder yn y farchnad?
A ydych chi'n credu bod ein trefniadau llywodraethu yn effeithiol wrth sicrhau gwerthiannau pren teg, agored, cystadleuol a thryloyw?
A yw'r cyfaint cynaeafu cynaliadwy arfaethedig (yn seiliedig ar y rhagolwg o gynhyrchiant) yn cyd-fynd â gofynion y farchnad?
A ydych chi'n cytuno bod y model contract, sef gwerthiannau sefydlog, ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn cynnig y cyfle gorau ar gyfer cynaeafu cynaliadwy, gwydnwch y farchnad, adfer cynnyrch a budd net?
A ddylid cynnal gwerthiannau pren yn bennaf drwy dendr agored?
Beth yw'r nifer gorau posibl o e-werthiannau agored y flwyddyn i gydbwyso cyflenwad a galw?
A fyddech chi'n cefnogi cyflwyniad gwerthiant ar ffurf arwerthiant byw, i ategu gwerthiannau tendr agored arferol, wedi'u rhaglennu?
Pa mor bwysig yw arloesedd mewn contractau i'r sector (e.e. gwerthu cyfeiriedig, contractau cyflenwi dynodedig, cyflenwi cyfleusterau cynaeafu i gwsmeriaid, gwerthiant cyfeintiol)?
Pa mor effeithiol yw strategaethau marchnata presennol wrth ymateb i newidiadau yn y farchnad?
Pa mor gefnogol ydych chi o’n gallu i ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau hinsoddol a heriau’n ymwneud ag iechyd planhigion?
Sut fyddech chi'n graddio arferion diogelwch cyfredol mewn gweithrediadau cynaeafu ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru?
Pa mor glir a theg yw'r meini prawf cymhwyso presennol ar gyfer cwsmeriaid o ran sicrhau safon ofynnol o ddiogelwch a chydymffurfedd ac er mwyn galluogi tendro cystadleuol (Cymhwyster Gwerthiannau Pren a Holiadur Iechyd a Diogelwch)?
Pa ymarferion ymgysylltu pellach y gallem eu cynnal â'r sector er mwyn sicrhau bod ein gweithgareddau gwerthu pren yn cyflawni'r anlyniadau gorau?
Pa mor well allwn ni gefnogi’r broses o ddatblygu’r sector ar gyfer melinwyr llifio bach/micro/arbenigol?
Pa ffactorau fyddai’n helpu i wella hyder yn y cyflenwad pren o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru?
A yw targedau dangosyddion perfformiad allweddol a yrrir gan gyfaint yn briodol ar lefel ranbarthol (lle)?
Pa mor dda mae cynnig Cynllun Gwerthiannau a Marchnata Pren 2026 i 2031 yn cyd-fynd â'n hamcanion strategol, yn ogystal â chyflawni yn erbyn y camau gweithredu yn Strategaeth Ddiwydiannol Pren 2025 Llywodraeth Cymru?