Strategaeth Ddrafft ar gyfer Twf a Gwerth Cynaliadwy 2027-2031

Yn cau 8 Maw 2026

Cynllun datblygu busnes

Ein Strategaeth Ddrafft ar gyfer Twf a Gwerth Cynaliadwy 2027–2031 - dewis 'Cynllun datblygu busnes' 

Ein drafft ymrwymiadau allweddol ar gyfer 2027-2031 yw:

  • Arloesedd: Byddwn yn archwilio syniadau newydd ac arloesol ar gyfer ein busnes, yn benodol ar gyfer cyllid gwyrdd, rheoli asedau, twf digidol masnachol, ac ail-beiriannu busnes.
  • Cyllid gwyrdd gan gynnwys twf creu coetiroedd: Byddwn yn datblygu cynllun gweithredu i fynd i’r afael ag argymhellion a wnaed gan archwiliad dwfn i goedwigaeth yng Nghymru: Archwiliad Dwfn i Goed a Phren | LLYW.CYMRU a chyfleoedd i dyfu Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, yn gydnaws ag uchelgeisiau’r llywodraeth ar gyfer y rhwydwaith coedwigoedd.
  • Defnydd tir cynaliadwy: Byddwn yn cefnogi rhanddeiliaid allweddol i nodi mecanweithiau cyflawni newydd i gynyddu arwynebedd a gwella ansawdd Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.  Byddwn yn cyflawni hyn drwy gyfrannu at fap tir gwledig a chynllun defnydd tir yn ogystal ag egluro ein rôl wrth alluogi cyfleoedd datblygu masnachol cynaliadwy ar dir yn ein gofal.
  • Astudiaethau achos fel arddangoswyr: Byddwn yn datblygu ac yn cyhoeddi astudiaethau achos o’n gwaith i annog a hyrwyddo arloesedd a dangos tystiolaeth o ganlyniadau a gyflawnwyd a gwersi a ddysgwyd, a defnyddio’r rhain i feithrin hyder a datblygu cyfleoedd yn y dyfodol.
  • Cynlluniau peilot a chyd-ariannu: Byddwn yn datblygu cynlluniau peilot ar gyfer dulliau arloesol o reoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol. Byddwn hefyd yn gwahodd cynigion gan eraill i gydweithio a datblygu templed ar gyfer mecanweithiau ariannu rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat.
  • Arfarnu buddsoddi: Byddwn yn creu offer arfarnu buddsoddi ariannol i gynorthwyo ein prosesau gwneud penderfyniadau wrth fuddsoddi a manteisio ar gyfleoedd cyllido newydd.
Rydym yn ceisio archwilio cyfleoedd newydd a chyfleoedd sy'n dod i'r amlwg ar gyfer cynhyrchu incwm cynaliadwy drwy'r gwaith a gyflawnwn. Pa un o'r tri maes hyn ydych chi'n eu cefnogi inni eu datblygu pellach a chanolbwyntio’n fwy arnynt (ticiwch bob un sy'n berthnasol):
Rhowch sylwadau ar ba feysydd rydych chi'n eu gwerthfawrogi fwyaf a pham
Pa feysydd datblygu, sydd wedi'u halinio â ffrydiau incwm cynaliadwy newydd (nad ydynt eisoes wedi'u crybwyll uchod), hoffech chi i ni eu harchwilio ymhellach, a pham?