Strategaeth Ddrafft ar gyfer Twf a Gwerth Cynaliadwy 2027-2031
Cynllun hamdden masnachol
Ein Strategaeth Ddrafft ar gyfer Twf a Gwerth Cynaliadwy 2027–2031 - dewis 'Cynllun hamdden masnachol'
Ein drafft ymrwymiadau allweddol ar gyfer 2027-2031 yw:
- Llwybrau datblygu ac ail-fuddsoddi: Byddwn yn chwilio am gyfleoedd masnachol newydd i wella ac ehangu ein cynnig hamdden ar dir yn ein gofal. Lle cynhyrchir incwm o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, byddwn yn archwilio sut rydym yn ail-fuddsoddi incwm mewn coedwigoedd lleol.
- Blaenoriaethu ar sail buddion: Pan fyddwn yn ystyried cynigion hamdden masnachol newydd, byddwn yn blaenoriaethu cyfleoedd sy’n ategu ac yn rhoi buddion i gymunedau lleol a rheolaeth Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.
- Canolfannau ymwelwyr: Byddwn yn galluogi ac yn hwyluso sefydliadau neu fusnesau eraill i weithredu canolfannau ymwelwyr, ac ardaloedd cyfagos posibl, ar ein safleoedd hamdden ffurfiol, er mwyn gwella profiadau ymwelwyr wrth warchod byd natur.
- Cynnig i’r cyfryngau a byd ffilm: Byddwn yn gwella ein cynnig presennol i’r cyfryngau a byd ffilm gael cyfleoedd ar y tir yn ein gofal. Byddwn yn adolygu ein model gweithredu a’n strwythur ffioedd presennol, i gefnogi polisi ffilm a chyfryngau Llywodraeth Cymru.
- Astudiaethau achos fel arddangoswyr: Byddwn yn datblygu ac yn cyhoeddi astudiaethau achos o’n gwaith galluogi gyda phartneriaid i annog a hyrwyddo hamdden masnachol ar y tir yn ein gofal, ac yn defnyddio’r rhain i feithrin hyder a chyfleoedd yn y dyfodol.