Strategaeth Ddrafft ar gyfer Twf a Gwerth Cynaliadwy 2027-2031
Trosolwg
Read this page in English / Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Nod ein dogfen ddrafft Strategaeth Twf Cynaliadwy a Gwerth yw tyfu a sicrhau gwerth adnoddau i ganiatáu buddsoddi yn ôl i genhadaeth graidd Cyfoeth Naturiol Cymru fel bod natur yn gwella, cymunedau’n wydn yn wyneb newid hinsawdd, a llygredd yn cael ei leihau hyd yr eithaf, oll erbyn 2030.
Byddwn yn cyfrannu at gynhyrchu ynni adnewyddadwy, cysylltu pobl â byd natur, twf gwyrdd a chynaliadwy, a gwella amgylchedd ein coedwigoedd.
Mae’r cynnwys wedi’i fanylu yn yr adrannau isod, neu gallwch lawrlwytho fersiwn PDF o’r Strategaeth Ddrafft Ar Gyfer Twf a Gwerth
Rydym hefyd wedi datblygu drafft o Gynllun Gweithredu ar Werthu a Marchnata Pren 2027-2031 i gyflawni’r ymrwymiadau gwerthu pren yn y strategaeth hon.
Gallwch rannu eich barn isod.
Cyflwyniad i Cyfoeth Naturiol Cymru
Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r corff mwyaf a noddir gan Lywodraeth Cymru ac mae ein gwaith o warchod a gwella amgylchedd naturiol Cymru yn effeithio ar bopeth sydd bwysicaf – ein cymunedau, ein bywyd gwyllt, a’n dyfodol.
Rydym yn geidwaid dros 120,000 hectar, sef saith y cant o dir Cymru, ac mae’r tir hwn yn cynnwys Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, amddiffynfeydd rhag llifogydd, a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Ein dyletswydd ni yw rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, fel y’i nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Mae Ein cynllun corfforaethol hyd at 2030: byd natur a phobl yn ffynnu gyda’n gilyddyn amlinellu ble rydym yn y sefyllfa orau i wneud gwahaniaeth o fewn yr adnoddau sydd gennym, ond hefyd ble bydd angen i ni addasu sut a ble rydym yn gweithio, ac arloesi a chydweithio i sicrhau newid sy’n deg ac yn gyfiawn ac sy’n sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.
Ein gweledigaeth yw y bydd byd natur a phobl yn ffynnu gyda’n gilydd. Ein hamcanion llesiant yw gwireddu’r canlynol erbyn 2030 yng Nghymru:
- bydd byd natur yn gwella
- bydd cymunedau yn gallu gwrthsefyll newid hinsawdd
- bydd llygredd yn cael ei atal hyd yr eithaf
Swyddogaeth fasnachol Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae ein swyddogaeth fasnachol yn y Gyfarwyddiaeth Cwsmeriaid, Cyfathrebu a Masnachol, ac mae’n croesi pob cyfarwyddiaeth arall yn ein sefydliad.
Ein gweledigaeth yw bod twf a gwerth ein hadnoddau yn caniatáu buddsoddiad yn ôl i’n cenhadaeth graidd fel bod y canlynol yn wir yng Nghymru erbyn 2030: bod natur yn gwella, bod cymunedau’n wydn i newid hinsawdd, a bod llygredd yn cael ei atal hyd yr eithaf.
Ein hamcanion
Nod ein strategaeth twf a gwerth yw:
- dangos ein hymrwymiad i reoli adnoddau naturiol a’r tir rydyn ni’n gofalu amdano mewn modd cynaliadwy
- egluro sut mae gweithgarwch masnachol yn cefnogi ein cynllun corfforaethol hyd at 2030 a’n datganiad llesiant
- sicrhau ein bod yn darparu gwerth am arian i bwrs y wlad wrth gyfrannu at economi Gymreig gryfach a gwyrddach
- cefnogi adferiad natur, gwella mynediad i gymunedau, a chyfrannu at ddyfodol gwydn a chynaliadwy wedi’i adeiladu ar dwf gwyrdd
Mae’r amcanion masnachol hirdymor hyn yn cyd-fynd â deddfwriaeth y mae’n ofynnol i ni weithredu o’i mewn, megis Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013, a Deddf Coedwigaeth 1967, yn ogystal â gofynion Llywodraeth Cymru arnom ni, a fynegir mewn llythyr cylch gwaith gan bob llywodraeth newydd.
Maent hefyd yn cyd-fynd â'n strategaeth ariannol i weithredu o fewn cyllideb gytbwys a sicrhau cyllid i gefnogi ein cenhadaeth graidd a'n nodau llesiant yn y tymor hir. Mae hyn yn cael ei ategu gan ein Strategaeth Caffael a Chontractau 2026-2031, sy'n mynd i'r afael â themâu gwaith teg, cydraddoldeb ac amrywiaeth; atal caethwasiaeth fodern, gwerth am arian; a llywodraethu, cydymffurfiaeth ac arloesedd.
Bydd yr amcanion hyn hefyd yn ein cefnogi i gynnal safonau ac ardystio ar gyfer y coetiroedd rydyn ni’n eu rheoli ar ran Gweinidogion Cymru er mwyn sicrhau gwelliant parhaus i amgylchedd y goedwig ar gyfer pobl, natur a’r diwydiant coedwigaeth.
Byddant hefyd yn cyfrannu at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i atal a gwrthdroi colli natur erbyn 2030 drwy amddiffyn a rheoli 30% o’n tir a’n môr yn effeithiol er budd natur, a elwir yn “30 erbyn 30”.
Bydd ein cyfraniad at gamau gweithredu Cymru gyfan i gynyddu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy hefyd yn galluogi ac yn hwyluso eraill i gyflwyno cyfleoedd ar gyfer twf gwyrdd/cynaliadwy ac yn mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur yr ydym yn eu hwynebu nawr.
Mae’r amcanion wedi’u cynllunio mewn modd i fedru ymateb ar draws llywodraethau olynol posibl neu raglenni llywodraeth newydd.
Sut y byddwn yn cyflawni ein strategaeth
Yn ystod cyfnod hwn y strategaeth, sef o 2027 i 2031, byddwn yn blaenoriaethu ac yn canolbwyntio ein gwaith mewn pedwar maes allweddol:
- Datblygu busnes - drwy archwilio cyfleoedd newydd a chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg ar gyfer arloesi, cyllid gwyrdd, masnach ddigidol ac ail-beiriannu busnes, a diffinio ein rôl ym map tir gwledig a chynllun defnydd tir Cymru.
- Masnach a hamdden – drwy ganolbwyntio ar alluogi mynediad cynhwysol a chynaliadwy yn yr awyr agored i dir priodol yn ein gofal er budd llesiant pobl wrth warchod byd natur.
- Ynni adnewyddadwy – drwy alluogi a hwyluso twf a datblygiad, gan weithio â Thrydan Gwyrdd Cymru a datblygwyr eraill.
- Cynllun Gwerthu a Marchnata Pren 2027–2031 – drwy ddarparu sicrwydd cyflenwad i’n cwsmeriaid a phroseswyr pren yng Nghymru, ochr yn ochr â chynyddu’r gwerth cymdeithasol ac amgylcheddol i Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.
Yn y strategaeth ddrafft hon, rydym yn egluro beth yw ein rolau a’n diben ym mhob un o’r pedwar maes, a beth yw ein hymrwymiad i’r hyn yr ydym yn bwriadu ei gyflawni.
Bydd yr egwyddorion a’r cyfraniad at economi gylchol i Gymru – sy’n golygu ein bod yn ceisio ailddefnyddio ac adfywio deunyddiau neu gynhyrchion mewn ffordd gynaliadwy neu ecogyfeillgar – yn cael eu hymgorffori yn ein holl waith.
Bydd yr holl weithgareddau, wedi’u cynllunio ac yn adweithiol, yn cyd-fynd â’r cynllun corfforaethol hyd at 2030 a’r datganiad llesiant, gan fodloni gofynion deddfwriaethol.
Bydd gan bob maes gynllun gweithredu hefyd i gefnogi cyflawniad a dangosyddion perfformiad ein gwaith. Mae hyn eisoes ar ffurf ddrafft ar gyfer ein Cynllun Gwerthu a Marchnata Pren ac rydym yn croesawu eich barn ar y ddogfen ategol honno fel rhan o’r ymgysylltiad hwn. Mae cynlluniau gweithredu ar gyfer y tri maes gwaith arall yn cael eu datblygu a byddant yn ymateb i’r hyn a glywn ni wrth ymgysylltu ar y strategaeth hon.
Ymgysylltu a chydweithio
Byddwn yn cydweithio â’n staff, ein partneriaid, ein rhanddeiliaid, grwpiau diwydiant, cwsmeriaid a chymunedau i rannu ein mewnwelediad, gwybodaeth ac arbenigedd ar y cyd; meithrin ymddiriedaeth; a chydweithio ar nodau a rennir.
Rydym yn gweithio’n agos ar draws amrywiaeth o bortffolios Llywodraeth Cymru, gan gynnwys newid hinsawdd a materion gwledig, sy’n cynnwys timau coedwiageth, tirweddau a natur, yr economi ac ynni, a’r tîm noddi.
Yn fewnol, byddwn yn parhau i weithio’n agos gydag amrywiaeth o adrannau ac arbenigwyr pwnc, gan sicrhau ein bod yn cynnwys eu gofynion deddfwriaethol a/neu ddulliau rheoli risg fel rhan o’n prosesau, neu’n eu hymgorffori yn ein cytundebau a’n contractau ym mhob maes busnes.
Rheoli risg a sganio’r gorwel
Mae ein strategaeth yn cofleidio dull rhagweithiol ac addasol o reoli risg fel y gallwn barhau i fod yn wydn ac yn ymatebol i gyfleoedd a bygythiadau cymdeithasol a byd-eang sy’n dod i’r amlwg.
Drwy sganio’r gorwel yn barhaus, byddwn yn cynnal yr hyblygrwydd i ailffocysu ac esblygu ein ffyrdd o weithio wrth barhau i gydymffurfio a chyflawni’n gyson yn erbyn ein cynllun corfforaethol a’n rhwymedigaethau statudol.
Byddwn yn gweithio o fewn ein parodrwydd i dderbyn risg sefydliadol, gan wneud penderfyniadau sy’n cydbwyso cyfleoedd â chyfrifoldeb. Mae hyn yn golygu cymryd lefel briodol o risg lle mae’n cefnogi ein nodau wrth gadw’n ymwybodol o’r risgiau cynhenid yn ein gweithgareddau.
Byddwn yn meithrin diwylliant o greadigrwydd ac arloesedd, gan rymuso ein tîm a’n cydweithwyr i fod yn uchelgeisiol yn eu syniadau a’u gweithredoedd. Byddwn yn feiddgar wrth roi cynnig ar ddulliau newydd, ac os nad ydyn nhw mor llwyddiannus ag y’u cynlluniwyd, byddwn yn eu hystyried yn gyfleoedd dysgu gwerthfawr sy’n cryfhau ein sefydliad.
Cynllun datblygu busnes
Cyd-destun a sut y byddwn yn gweithio
Byddwn yn mynd ati i ystyried syniadau datblygu busnes newydd ac arloesol sy'n defnyddio cymysgedd o ddulliau ariannu a chyflenwi. Gallai hyn fod yn cyfuno cyllid craidd â grantiau, partneriaethau, contractau a ffynonellau allanol eraill – fel nad ydym yn dibynnu ar un math o gyllid yn unig.
Bydd angen i syniadau ac achosion busnes posibl fod yn hyfyw ac yn realistig a bydd rhaid iddynt wneud y canlynol:
- dangos ein hymrwymiad i reoli adnoddau naturiol a’r tir rydyn ni’n gofalu amdano mewn modd cynaliadwy
- egluro sut maen nhw’n cefnogi ein cynllun corfforaethol hyd at 2030 a’n datganiad llesiant
- sicrhau ein bod yn darparu gwerth am arian i bwrs y wlad wrth gyfrannu at economi Gymreig gryfach a gwyrddach
- cefnogi adferiad natur, gwella mynediad i gymunedau, a chyfrannu at ddyfodol gwydn a chynaliadwy wedi’i adeiladu ar dwf gwyrdd
Bydd cynigion yn cael eu gwerthuso’n gyson gan ddefnyddio ein pecyn adnoddau ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Byddwn yn ceisio cefnogaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ac yn gweithio ar draws y llywodraeth i fwrw ymlaen â gweithgareddau datblygu busnes ac i fod yn ymatebol i uchelgeisiau a thargedau newydd y llywodraeth.
Ymrwymiadau allweddol ar gyfer 2027–2031
- Arloesedd: Byddwn yn archwilio syniadau newydd ac arloesol ar gyfer ein busnes, yn benodol ar gyfer cyllid gwyrdd, rheoli asedau, twf digidol masnachol, ac ail-beiriannu busnes.
- Cyllid gwyrdd gan gynnwys twf creu coetiroedd: Byddwn yn datblygu cynllun gweithredu i fynd i’r afael ag argymhellion a wnaed gan archwiliad dwfn i goedwigaeth yng Nghymru: Archwiliad Dwfn i Goed a Phren | LLYW.CYMRU a chyfleoedd i dyfu Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, yn gydnaws ag uchelgeisiau’r llywodraeth ar gyfer y rhwydwaith coedwigoedd.
- Defnydd tir cynaliadwy: Byddwn yn cefnogi rhanddeiliaid allweddol i nodi mecanweithiau cyflawni newydd i gynyddu arwynebedd a gwella ansawdd Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Byddwn yn cyflawni hyn drwy gyfrannu at fap tir gwledig a chynllun defnydd tir yn ogystal ag egluro ein rôl wrth alluogi cyfleoedd datblygu masnachol cynaliadwy ar dir yn ein gofal.
- Astudiaethau achos fel arddangoswyr: Byddwn yn datblygu ac yn cyhoeddi astudiaethau achos o’n gwaith i annog a hyrwyddo arloesedd a dangos tystiolaeth o ganlyniadau a gyflawnwyd a gwersi a ddysgwyd, a defnyddio’r rhain i feithrin hyder a datblygu cyfleoedd yn y dyfodol.
- Cynlluniau peilot a chyd-ariannu: Byddwn yn datblygu cynlluniau peilot ar gyfer dulliau arloesol o reoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol. Byddwn hefyd yn gwahodd cynigion gan eraill i gydweithio a datblygu templed ar gyfer mecanweithiau ariannu rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat.
- Arfarnu buddsoddi: Byddwn yn creu offer arfarnu buddsoddi ariannol i gynorthwyo ein prosesau gwneud penderfyniadau wrth fuddsoddi a manteisio ar gyfleoedd cyllido newydd.
Cynllun hamdden masnachol
Cyd-destun a sut y byddwn yn gweithio
Bydd ein cynllun hamdden masnachol yn canolbwyntio ar alluogi mynediad awyr agored cynhwysol a chynaliadwy er budd llesiant pobl, tra ar yr un pryd yn gwarchod byd natur, yn unol â’n strategaeth hamdden: Cyfoeth Naturiol Cymru / Strategaeth hamdden: sut yr ydym yn rheoli mynediad i natur ar y tir yn ein gofal 2024–2030.
Byddwn yn symud o ddarpariaeth uniongyrchol i ddarpariaeth mewn partneriaeth. Byddwn yn mabwysiadu dull model yr economi gymysg, gan gyfuno elfennau o fentrau preifat â chymorth y llywodraeth, er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus a bod o fudd i’n cymunedau.
Er mwyn bod yn fwyaf effeithiol, byddwn yn mynd ar drywydd cyfleoedd ar gyfer hamdden masnachol sy’n:
- dangos ein hymrwymiad i reoli adnoddau naturiol a’r tir rydyn ni’n gofalu amdano mewn modd cynaliadwy
- cefnogi ein cynllun corfforaethol hyd at 2030 a’n datganiad llesiant
- sicrhau ein bod yn darparu gwerth am arian i bwrs y wlad wrth gyfrannu at economi Gymreig gryfach a gwyrddach
- cefnogi adferiad natur, gwella mynediad i gymunedau, a chyfrannu at ddyfodol gwydn a chynaliadwy wedi’i adeiladu ar dwf gwyrdd
Drwy wneud hyn, byddwn yn cyfrannu at nodau ehangach, megis ymrwymiad Llywodraeth Cymru i atal a gwrthdroi colli natur erbyn 2030, a elwir yn “30 erbyn 30”, gweithredu ar newid hinsawdd, cysylltiad â natur i bawb, a chyd-fynd â nodau llesiant Llywodraeth Cymru: Llesiant Cymru: 2025 | LLYW.CYMRU.
Rydym yn agored i archwilio datblygiadau hamdden hyfyw newydd ac arloesol ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, sy’n agored i gerddwyr ar ei hystad rydd-ddaliadol. Yn y rhan fwyaf o leoedd, mae’r mynediad hwn wedi’i ymestyn i feicio di-fodur a marchogaeth. Nodwn y delir rhywfaint o’r ystad fel lesddaliad a gall mynediad at hamdden fod yn gyfyngedig yn yr ardaloedd hyn. Efallai y bydd angen caniatâd landlordiaid ar gyfer mynediad hamdden a gweithgareddau masnachol, a byddwn yn mynnu trafodaethau i fynd ar drywydd cynigion hamdden masnachol o’r fath.
Rydym eisoes yn cynnig mynediad i rai ardaloedd o’r goedwig ar gyfer marchogaeth masnachol, ac rydym wedi ymrwymo i barhau â threfniadau o’r fath o fewn pob cyfnod contractiol.
Ymrwymiadau allweddol ar gyfer 2027–2031
- Llwybrau datblygu ac ail-fuddsoddi: Byddwn yn chwilio am gyfleoedd masnachol newydd i wella ac ehangu ein cynnig hamdden ar dir yn ein gofal. Lle cynhyrchir incwm o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, byddwn yn archwilio sut rydym yn ail-fuddsoddi incwm mewn coedwigoedd lleol.
- Blaenoriaethu ar sail buddion: Pan fyddwn yn ystyried cynigion hamdden masnachol newydd, byddwn yn blaenoriaethu cyfleoedd sy’n ategu ac yn rhoi buddion i gymunedau lleol a rheolaeth Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.
- Canolfannau ymwelwyr: Byddwn yn galluogi ac yn hwyluso sefydliadau neu fusnesau eraill i weithredu canolfannau ymwelwyr, ac ardaloedd cyfagos posibl, ar ein safleoedd hamdden ffurfiol, er mwyn gwella profiadau ymwelwyr wrth warchod byd natur.
- Cynnig i’r cyfryngau a byd ffilm: Byddwn yn gwella ein cynnig presennol i’r cyfryngau a byd ffilm gael cyfleoedd ar y tir yn ein gofal. Byddwn yn adolygu ein model gweithredu a’n strwythur ffioedd presennol, i gefnogi polisi ffilm a chyfryngau Llywodraeth Cymru.
- Astudiaethau achos fel arddangoswyr: Byddwn yn datblygu ac yn cyhoeddi astudiaethau achos o’n gwaith galluogi gyda phartneriaid i annog a hyrwyddo hamdden masnachol ar y tir yn ein gofal, ac yn defnyddio’r rhain i feithrin hyder a chyfleoedd yn y dyfodol.
Ynni adnewyddadwy
Cyd-destun a sut y byddwn yn gweithio
Rydym yn rheoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, gan alluogi cynlluniau ynni adnewyddadwy ar yr ystad goedwig gyhoeddus i gefnogi dyfodol cynaliadwy.
Rydym yn cydnabod y cyfleoedd y gall datblygu ynni adnewyddadwy ar y tir yn ein gofal eu cynnig i ymgorffori rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng natur, a chyfrannu at dwf economaidd a chyflogaeth fedrus.
Byddwn yn parhau i reoli’r cytundebau masnachol presennol ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy ar ran Llywodraeth Cymru. Wrth wneud hyn, rydym yn darparu cysylltiadau rhwng landlordiaid a thenantiaid, cyfrifyddu ariannol cadarn, a chynnal a chadw ein hasedau adeiledig.
Rydym eisoes yn gweithio’n agos gyda Thrydan Gwyrdd Cymru, sy’n gwmni sy’n eiddo i’r cyhoedd a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru.
Ymrwymiadau allweddol ar gyfer 2027–2031:
- Cytundeb enghreifftiol gyda Thrydan Gwyrdd Cymru: Byddwn yn parhau i weithio gyda Thrydan Gwyrdd Cymru ac yn datblygu ar hynny, gan alluogi cynlluniau ynni adnewyddadwy pellach ar y tir yn ein gofal. Byddwn yn gweithredu ein pecyn cymorth ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, a hefyd yn datblygu cytundeb defnydd tir yn ôl arferion gorau gyda Thrydan Gwyrdd Cymru i ddangos sut mae datblygu ynni adnewyddadwy yn ategu tir a natur.
- Cyflawni cynlluniau cymeradwy: Byddwn yn galluogi ac yn cefnogi’r tri chynllun a ragwelir ar hyn o bryd: Clocaenog Dau, Sir Ddinbych; Glyn Cothi, Sir Gaerfyrddin; a Charreg Wen, Rhondda Cynon Taf.
- Partneriaethau newydd: Byddwn yn parhau i weithio gyda datblygwyr a grwpiau cymunedol eraill i hwyluso cytundebau trydydd parti a chynlluniau ynni adnewyddadwy sy’n bodloni safonau amgylcheddol uchel ac yn cyflawni amcanion Llywodraeth Cymru.
- Astudiaethau achos fel arddangoswyr: Byddwn yn datblygu ac yn cyhoeddi astudiaethau achos i hyrwyddo cydweithio, ac yn eu defnyddio i feithrin hyder ynom ni ymhlith y diwydiant ynni adnewyddadwy a chreu cyfleoedd yn y dyfodol.
- Adrodd ar berfformiad ar gynlluniau cyfredol: Byddwn yn cyhoeddi ystadegau (e.e. allbynnau megawat a chyflawniad creu coetiroedd) ar gyflawniadau ynni adnewyddadwy cyfredol ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod 2021–2026. Bydd hyn yn dangos gwerth ein gwaith hwyluso cynlluniau ynni adnewyddadwy.
- Rhagolygon prosiectau hyd at 2031: Byddwn hefyd yn cyhoeddi rhagolwg o brosiectau ynni targed hyd at 2031 ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Bydd pob cynllun yn cael ei werthuso gan ddefnyddio ein pecyn cymorth ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gan ddangos ein dull o alluogi rheolaeth gynaliadwy o’n hadnoddau naturiol wrth gyfrannu at dwf economaidd a gwerth i Gymru.
- Llawlyfr y datblygwr: Byddwn yn cyhoeddi llawlyfr i ddatblygwyr, ochr yn ochr â’n cynllun gweithredu, i gefnogi datblygwyr sy’n dymuno cydweithio â ni. Bydd hyn yn nodi’r safonau gofynnol, gan gynnwys Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, ac yn cynnwys gwybodaeth am ein prosesau gwneud penderfyniadau.
- Offeryn rhagweld ariannol: Byddwn yn datblygu offeryn rhagweld ar gyfer incwm ynni adnewyddadwy ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, i gefnogi hyfywedd ariannol a rheolaeth ddoeth o’n hadnoddau.
- Llywodraethiant symlach: Byddwn yn adolygu sut y gallwn symleiddio a gwella gweithdrefnau llywodraethiant, lle bo’n briodol, er mwyn gwella ymatebolrwydd ac effeithlonrwydd.
Gwerthiannau pren a marchnata
Cyd-destun a sut y byddwn yn gweithio
Mae Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn adnodd coetir. Rydym yn ei reoli i greu buddion llesiant amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol i bobl Cymru a thu hwnt, nawr ac i genedlaethau’r dyfodol.
Mae’r ystad goetir yn helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd drwy gloi carbon. Mae hefyd yn darparu cynefinoedd gwerthfawr i blanhigion a bywyd gwyllt ac yn cynnig lle ar gyfer hamdden. Mae’n darparu cyflenwad da o bren, sy’n cefnogi cyflogaeth a bywoliaethau gwledig.
Rydym wedi datblygu cynllun gweithredu drafft ar gyfer cyflawni’r ymrwymiadau yn y strategaeth hon mewn perthynas â gwerthu a marchnata pren. Gallwch ddarllen y cynllun hwnnw yma ac mae ein holiadur yn gofyn am eich barn ar y cynllun hwn yn ogystal â’n strategaeth.
Ein cynllun gwerthu a marchnata pren yw ein hymrwymiad i gyflenwi pren i’r sector melinoedd coed a phrosesu pren yng Nghymru yn yr hirdymor. Mae hyn yn unol â gofynion ystad goedwig gyhoeddus y DU o dan y Ddeddf Coedwigaeth, dan oruchwyliaeth y Comisiynwyr Coedwigaeth.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cyflenwad cyson o bren i’r farchnad er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy hirdymor i sector melinoedd coed a phrosesu pren Cymru.
Rydym yn croesawu Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Pren 2025. Bydd y Strategaeth Twf a Gwerth Cynaliadwy Ddrafft hon, ynghyd â’r Cynllun Gwerthu a Marchnata Pren cysylltiedig (dolen), yn amlinellu beth a sut rydym yn cyfrannu at bob un o’r targedau a neilltuwyd i ni yn Cyfoeth Naturiol Cymru.
Ers 2005, rydym wedi cynnig 85% o’r cyfaint cynhyrchu a ragwelir fydd ar gael o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru i sicrhau cyflenwad pren cynaliadwy a rheolaeth o’r stoc garbon. Mae hyn hefyd yn gwella ein gallu i gyflawni gwerthoedd rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Mae rhagolwg cynhyrchu Forest Research ar gyfer y sector pren ym Mhrydain Fawr (sydd i’w gyhoeddi yn 2026) yn llywio’r cyfeintiau yr ydym yn ymrwymo i’w cynnig i’r farchnad, trwy ein cynlluniau adnoddau coedwigoedd.
Rydym yn rheoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn unol â Safon Coedwigaeth y DU ac mae hyn yn cael ei archwilio’n flynyddol fel y nodir yn Safon Sicr Coetiroedd y Deyrnas Unedig (UKWAS). Rydym yn cadw gwiriad annibynnol gan y Rhaglen Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC) a’r Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd (FSC ®), sy’n dangos gwelliant parhaus i amgylchedd y goedwig ar gyfer pobl a natur, ac yn rhoi hyder i’r diwydiant coedwigaeth.
Dywed Safon Coedwigaeth y DU: “Rheoli coedwigoedd cynaliadwy yw stiwardiaeth a defnydd coedwigoedd a thiroedd coedwig mewn ffordd ac ar gyfradd sy’n cynnal eu bioamrywiaeth, eu cynhyrchiant, eu gallu i adfywio a’u hyfywedd, a’u potensial i gyflawni, nawr ac yn y dyfodol, swyddogaethau ecolegol, economaidd a chymdeithasol perthnasol ar lefelau lleol, cenedlaethol a byd-eang, ac nad yw’n achosi niwed i ecosystemau eraill.”
Dywed Safon Coedwigaeth y DU: “Coetiroedd y DU sy’n cael eu rheoli’n gyfrifol ac sy’n iachach, yn fwy toreithiog ac yn fwy amrywiol, ac sy’n darparu ystod eang a chynaliadwy o fuddion i gymdeithas, yr economi a’r amgylchedd.”
Mae rheoli coedwigoedd cynaliadwy yn gydnaws â’r canlynol:
- deddfwriaeth Gymreig fel Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 (y ddeddfwriaeth oedd yn ymwneud â chreu Cyfoeth Naturiol Cymru)
- ein cynllun corfforaethol hyd at 2030 a’n datganiad llesiant
- ein rôl fel corff cyhoeddus a’n gwerthoedd sefydliadol
Mae gan reolaeth Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a’r diwydiant coedwigaeth ehangach gyfle i gyfrannu’n sylweddol at lesiant ein cymdeithas Gymreig, wrth hyrwyddo a chyfrannu at gymuned iach, ac amgylchedd ac economi leol sy’n gwella, tra ar yr un pryd yn gweithio tuag at sero net cynaliadwy a diwydiant sy’n uwchsgilio.
Dim ond drwy gydweithio â diwydiant coedwigaeth a phroseswyr pren Cymru y gallwn gyflawni hyn.
Ymrwymiadau allweddol ar gyfer 2026–2031
- Llywodraethiant, safonau: Byddwn yn parhau i reoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn unol â Safon Coedwigaeth y DU (UKFS), a archwilir yn flynyddol fel y nodir yn Safon Sicr Coetiroedd y DU (UKWAS). Byddwn yn cadw gwiriad annibynnol gan y Rhaglen Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC) a’r Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd (FSC®). Byddwn yn cymhwyso ac yn esblygu ein Safon Llywodraethiant Gwerthiannau Pren, er mwyn sicrhau gwerthiant pren diogel, hygyrch, teg, agored, cystadleuol a thryloyw.
- Cyfaint y farchnad: Byddwn yn cynyddu cyfaint y pren sy’n cael ei gynaeafu o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Byddwn yn nodi ble mae arnom angen mwy o fuddsoddiad ar yr ystad i alluogi mynediad i ddiwydiant ar gyfer mwy o bren. Bydd hyn yn cynnwys cynllun gweithredu a chynigion a chyfleoedd ariannu.
- Cynhyrchu a rhagweld: Byddwn yn sicrhau bod cynhyrchu pren yn parhau i fod yn amcan yn ein cynlluniau adnoddau coedwigoedd er mwyn dadansoddi’n barhaus ein stoc gynyddol o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru. Byddwn yn parhau i ddarparu rhagolwg cynhyrchu pren cywir i lywio argaeledd yn y dyfodol a sicrhau buddsoddiad a thwf yn y diwydiant prosesu pren.
- Ymrwymiad i werth ar y farchnad: Byddwn yn ymrwymo i gyfaint pren i’w gludo i’r farchnad, yn unol â Rhagolwg Cynhyrchu Prydain Fawr 2026–2031, gan gynnig ymrwymiad i’r sector prosesu pren wrth sicrhau ein bod yn gwella’r amgylchedd i bobl Cymru a byd natur.
- Gwerthiannau a marchnata: Byddwn yn parhau gyda’r gwerthiant sefydlog fel y model contract a ffefrir ar gyfer cyflawni rhaglenni cynaeafu, gyda rhywfaint o gynaeafu cynhyrchiol uniongyrchol lle mae angen mwy o reolaeth. Byddwn yn marchnata digwyddiadau e-werthu tendr agored yn ystod cyfnod y cynllun hwn ac yn archwilio dulliau amgen o werthu pren.
- Gwydnwch: Byddwn yn datblygu cynlluniau risg hyblyg ar gyfer digwyddiadau arwyddocaol, fel ym maes iechyd planhigion, coed a chwalwyd gan y gwynt, a marchnadoedd, ac i gynnwys cydweithio â chontractwyr a phroseswyr. Byddwn yn cyhoeddi datganiad ailstocio er gwydnwch ar gyfer y farchnad, gan gydweithio â Forest Research ar dreialon o rywogaethau conwydd cynhyrchiol ehangach.
- Diogelwch: Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â’r sector coedwigaeth i hyrwyddo a gwella safonau diogelwch, iechyd a llesiant.
- Gweithio mewn partneriaeth: Byddwn yn cydweithio â’n staff, partneriaid, rhanddeiliaid, grwpiau diwydiant, cwsmeriaid a chymunedau i rannu ein mewnwelediad, gwybodaeth ac arbenigedd ar y cyd; yn meithrin ymddiriedaeth; ac yn gweithio gyda’n gilydd ar nodau a rennir.
- Adrodd ar berfformiad: Byddwn yn cyhoeddi adroddiadau, diweddariadau a chyflawniadau amserol o’r Cynllun Pren a Marchnata hwn er mwyn cynnal hyder y farchnad yn y cyflenwad.
Pam bod eich barn yn bwysig
Mae ein Strategaeth Ddrafft ar gyfer Twf a Gwerth yn amlinellu sut rydym yn bwriadu tyfu ein hincwm, cynyddu’r gwerth a ddarparwn, a gwella effeithlonrwydd wrth aros yn driw i’n diben amgylcheddol.
Rydym wedi disgrifio’r llwybr yr ydym yn ei ddilyn ar hyn o bryd – a nawr rydym am glywed gennych chi.
Rydym yn gofyn y cwestiynau canlynol i’n staff, ein partneriaid, ein rhanddeiliaid, ein cwsmeriaid, a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu:
- Ydy’r llwybr hwn yn teimlo’n iawn?
- Oes cyfleoedd rydyn ni wedi’u colli?
- Pa syniadau hoffech chi i ni eu harchwilio?
Rydym yn casglu adborth yma (gweler ‘Rhannwch eich barn’ isod).
Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu ym mis Chwefror a mis Mawrth 2026.
Gallwch ymuno â digwyddiad ddydd Llun 2 Mawrth 2026:
• 11am-12pm (yn canolbwyntio ar bren)
• 2pm-3pm (yn canolbwyntio ar ddatblygu busnes, hamdden fasnachol ac ynni adnewyddadwy)
I gofrestru i ymuno, anfonwch e-bost at masnachol@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Gallwch gysylltu â ni hefyd drwy ffonio 0300 065 3000 (Llun-Gwener, 9am-5pm).
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Unrhyw un o unrhyw gefndir
Diddordebau
- Biodiversity
- Committees
- Community Engagement
- Forest Management
- Landscapes
- National Access Forum
- Timber sales
- Woodland Opportunity Map
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook