Prosiect Adfer Afon Graean Llandinam

Yn cau 31 Rhag 2025

Wedi'i agor 23 Mai 2024

Trosolwg

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio ar brosiect i adfer cynefin pwysig ar hyd rhan o Afon Hafren ym mhentref Llandinam.

Mae'r ardal, a gaiff ei hadnabod fel Graean Llandinam, yn warchodfa natur. Mae'r graean bas yn gynefin gwych i infertebratau ffynnu, i adar hirgoes fwydo ac i bysgod mudol fel eog silio.  

Ond mae ymyrraeth ddynol hanesyddol, fel sythu sianel yr afon a symud graean, wedi newid prosesau naturiol yr afon. Mae hyn yn dirywio cynefin y warchodfa natur ac yn arwain at fwy o erydiad yn nes at y pentref.

Ein prosiect i adfer prosesau afon naturiol a chynyddu'r cynefinoedd hyn fydd un o'r prosiectau adfer afon iseldir mwyaf yng Nghymru.

Drone image of River Severn at Llandinam

Defnyddiwch y cwymplenni isod i ddysgu mwy.

Pwysigrwydd Afon Hafren

Afon Hafren yw'r afon hiraf yn y DU, tua 220 milltir o hyd. Mae'n tarddu ym Mynyddoedd Cambria ac yn llifo trwy Bowys cyn croesi'r ffin i Swydd Amwythig ac ymlwybro i lawr i ffurfio aber Afon Hafren.

Yma yng Nghymru, Afon Hafren yw un o'n naw afon Ardal Cadwraeth Arbennig sy'n cael amddiffyniad ychwanegol oherwydd y rhywogaethau prin yn eu cynefin.

Mae'r aber wedi'i dynodi oherwydd ei fflatiau llaid a'i banciau tywod a'i dolydd heli sy'n gynefin hollbwysig i adar hirgoes.

Mae graean yr afon yn darparu lleoedd i infertebratau ffynnu ac i adar hirgoes fwydo a magu. Mae 500 a mwy o rywogaethau o infertebratau yn byw mewn graeanau afon agored ac yn sail i'n cadwyn fwyd.

Mae'r afon wedi'i dynodi ar gyfer rhywogaethau pysgod mudol fel yr eog, llysywen bendoll y môr a’r wangen sydd dan fygythiad cynyddol.

Exposed gravel beds river Severn

 ________________________________________________________________

Beth rydyn ni'n bwriadu ei wneud

Mae’r prosiect yn rhan o’n rhaglen adfer afonydd ehangach yng Nghymru, sydd â’r nod o adfer prosesau naturiol afonydd ac ailgyflwyno cynefinoedd sydd wedi’u colli yn sgil gweithgareddau pobl yn hanesyddol

Ein nod yw adfer rhan o'r Hafren, tua 900m o hyd, yn ôl i gyflwr mwy naturiol.

Mae tîm y prosiect yn cynnwys sawl disgyblaeth ac ar ôl adolygu llawer o opsiynau dylunio gyda phartneriaid ac arbenigwyr, bwriad yr opsiwn a ffefrir yw galluogi'r afon i adfer yn naturiol ar ffurf sianeli lluosog lletach. Mae'r dull hwn yn annog yr afon i ddefnyddio ei phrosesau naturiol ei hun, sy'n gofyn am lai o beirianneg.

Bydd y cynllun wedi'i leoli i'r de o bentref Llandinam ac mae'n cwmpasu ardal o ryw 25 hectar. Mae ffin fwyaf gogleddol y safle yn ymestyn i faes parcio Llandinam, mae'r A470 yn ffurfio'r ffin ddwyreiniol ac mae'r ffiniau deheuol a gorllewinol o fewn Gwarchodfa Natur Graean Llandinam.

Mae ein cynlluniau’n cynnwys:

  • Creu sianeli afon ychwanegol i arafu llif yr afon a lleihau erydiad. Gelwir hyn yn drefniant 'sianel blethog' (gweler y llun isod).
  • Gosod pren mawr yn y sianeli er mwyn lleihau erydiad a chreu trapiau graean a gwaddodion, wrth ddarparu cynefin ychwanegol.

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Yn ogystal â darparu llu o fuddion i natur, disgwylir i'r cynllun gynnig manteision ychwanegol i'r gymuned, gan gynnwys sicrhau gostyngiad cyffredinol yng nghyflymder a phŵer erydol yr afon yn ystod llifoedd uchel.

 ________________________________________________________________

Y Wybodaeth Ddiweddaraf

Wrth weithio law yn llaw â'n hymgynghorwyr Binnies a CBEC (arbenigwyr adfer ar gyfer yr amgylchedd dŵr) yn 2023, rydym wedi cynnal nifer o arolygon ac ymchwiliadau i lywio dyluniad y cynllun. Mae rhai ohonynt yn cynnwys:

  • Modelu hydrolig i amcangyfrif llif, lefel y dŵr a chyflymder yn sianeli’r afon.
  • Astudiaeth ddesg geodechnegol i adolygu gwybodaeth berthnasol am ddata hanesyddol, daearegol ac amgylcheddol y safle.
  • Mae arolwg topograffig (neu arolwg tir neu'r diwedd) yn fath o arolwg sy'n mapio lefelau, ffiniau a nodweddion safle.
  • Arolygon ecolegol i asesu presenoldeb rhywogaethau goresgynnol neu warchodedig.
  • Adroddiad archaeolegol i leoli, nodi a chofnodi dosbarthiad, strwythur a ffurf safleoedd archaeolegol mewn perthynas ag ardal y prosiect.

Staff member surveying the River Severn

Datblygwyd dyluniad cysyniad cychwynnol ar gyfer y cynllun, ac rydyn ni wrthi’n gweithio yn awr i droi’n cynigion yn ddyluniad manwl terfynol.

Ein nod yw cyflwyno ein cynlluniau i'r gymuned a derbyn adborth yn y misoedd nesaf. Byddwn yn cael pob caniatâd a chysyniad perthnasol er mwyn dechrau adeiladu'r cynllun yn ystod haf 2025, yn amodol ar gyllid..

_________________________________________________________________

Cwestiynau Cyffredin

Fyddwch chi'n ymgynghori ar gynlluniau ar gyfer y cynllun?

Byddwn yn cynnal sesiynau galw heibio yn y gymuned i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ac yn dosbarthu cylchlythyr i roi'r manylion diweddaraf i bobl. Hefyd, byddwn yn gweithio'n agos gydag Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn sy'n berchen ar Warchodfa Graean Llandinam ac yn ei rheoli.

Faint fydd y cynllun yn ei gostio?

Disgwylir i'r prosiect gostio tua £1 miliwn ac mae'n cael ei ariannu gan Raglen Gyfalaf Natur ac Argyfwng Hinsawdd Llywodraeth Cymru.

Mae'r rhaglen yn cefnogi nifer o flaenoriaethau amgylcheddol gan gynnwys adfer mawndir, adfer mwyngloddiau metel, pysgodfeydd, ansawdd dŵr a choedwigoedd cenedlaethol.

A fydd y prosiect yn lleihau perygl llifogydd i drigolion Llandinam?

Dangoswyd bod adfer prosesau afon naturiol sy'n gysylltiedig â 'Rheoli Llifogydd Naturiol' yn dod â manteision hirdymor o ran perygl llifogydd. Prif nod y prosiect adfer afon yw adfer cynefin gwerthfawr er budd natur.

Nid yw wedi'i gynllunio'n benodol i leihau peryglon llifogydd, ond trwy adfer prosesau afon naturiol, ailgysylltu gorlifdiroedd, arafu a lledaenu llifoedd llifogydd dros ardal ehangach i fyny'r afon, bydd rhai manteision ar gyfer rheoli lefelau dŵr i lawr yr afon.

Mewn cynllun ar wahân, mae Cyngor Sir Powys wedi gosod bwnd bach o bridd i leihau'r perygl llifogydd i eiddo yn Llandinam.

Fyddwch chi'n carthu'r afon fel rhan o'r prosiect?

Ar y cyfan, mae carthu afonydd naturiol yn niweidiol iawn i'r cynefinoedd a'r rhywogaethau sy'n bresennol, ond hefyd i'r tir a'r eiddo cyfagos i fyny ac i lawr yr afon.

Ni fyddwn yn gwneud unrhyw garthu fel rhan o'r gwaith hwn, ond yn hytrach byddwn yn ailgysylltu'r afon â'r gorlifdir ac yn adfer prosesau naturiol.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n atgoffa tirfeddianwyr i beidio â symud graean o nentydd ac afonydd. Mae gwaith mewn afonydd, fel symud graean, carthu neu newid sianel, yn drosedd oni bai bod y gwaith yn cael ei wneud dan drwydded neu ganiatâd priodol.

Mae gwaith symud graean yn achosi difrod i fywyd gwyllt, gan gynnwys infertebratau dyfrol, mannau silio pysgod ac adar sy'n nythu. Mae’n lledaenu rhywogaethau estron goresgynnol fel clymog Japan i leoliadau eraill hefyd gan arwain at bla a difrod i eiddo cyfagos. Mae gwaith o'r fath yn ansefydlogi'r afon ac yn gallu newid cwrs y sianel yn aruthrol. Gall gymryd degawdau i ganrifoedd i afon adfer o waith amhriodol.

Dim ond dan amgylchiadau penodol y caniateir symud graean o afonydd a lle mae'n amlwg ei bod hynny’n gwbl angenrheidiol.

_________________________________________________________________

Cysylltwch â ni

I gysylltu â'r tîm, e-bostiwch: Llandinamgravels@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

 

www.naturalresources.wales

LlandinamGravels@cyfoethnaturiol.cymru

03000 65 3000

Ardaloedd

  • Llandinam

Cynulleidfaoedd

  • Rivers
  • citizens
  • Anglers
  • Wales Biodiversity Partnership

Diddordebau

  • WFD
  • water framework directive
  • water planning
  • river basin planning