Pedair Afon LIFE – Llwybr pysgod newydd ym Mhont Llan-ffwyst
Trosolwg
I ddarllen y dudalen hon yn Saesneg, cliciwch yma.
Helpu pysgod ger pont Llan-ffwyst
Mae prosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio atebion hirdymor sy'n seiliedig ar natur i wella iechyd Afon Wysg. Mae’r gwaith adfer yn cynnwys cael gwared ar rwystrau i bysgod sy’n mudo ac adfer prosesau naturiol yr afon sy'n allweddol i gynnal cynefinoedd iach a gwella ansawdd dwr ar gyfer bywyd gwyllt.
Ym Mhont Llan-ffwyst, rydym yn gwella mynediad i bysgod mudol. Bydd y gwaith yn galluogi pysgod i symud yn rhwydd i fyny ac i lawr yr afon ac yn helpu i gynyddu niferoedd rhai rhywogaethau sy’n beryglus o isel.

Llun uchod: Pont Llan-ffwyst.
Afon Wysg – cartref i fywyd gwyllt arbennig
Mae Afon Wysg yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) sy'n golygu ei bod o bwysigrwydd rhyngwladol am ei bywyd gwyllt a'i phlanhigion.
Mae'n gartref i eogiaid a brithyllod gwyllt, a llu o rywogaethau eraill fel herlod a gwangod, llysywod pendoll y nant, yr afon a'r môr, llysywod, pennau lletwad, dyfrgwn, crafanc y dwr a chimychiaid afon crafanc wen.
Mae dyfrgwn wedi cael eu gweld ar y darn hwn o'r afon o amgylch Pont Llan-ffwyst. Mae llystyfiant trwchus ar y glannau’n darparu lloches i'r creaduriaid swil hyn.
Mae'r afon hefyd yn gartref i amrywiaeth eang o adar sy'n magu ar lannau afonydd fel glas y dorlan, y siglen lwyd a bronwen y dwr. Bydd yr adar hyn yn mynd ar hyd darn o afon gan archwilio'r pyllau, y banciau graean, a’r ceudodau yn ngwreiddiau’r coed ar gyfer larfâu chwilod a silod pysgod bach.

Delweddau uchaf o'r chwith i'r dde: Eog yr Iwerydd, Gwangen, Llysywen pendoll yr afon.
Delweddau gwaelod o'r chwith i'r dde: Penlletwad, Crafanc y dŵr, Dyfrgi.
Pont Llan-ffwyst – rhwystr i bysgod sy’n mudo
Mae sylfeini pont bresennol Llan-ffwyst yn cyfyngu ar symudiad pysgod, gan effeithio ar lawer o rywogaethau fel eogiaid, herlod, gwangod a llysywod pendoll sy'n rhywogaethau gwarchodedig ac yn rhai o nodweddion ACA Afon Wysg.
Mae ymchwil yn dangos y gall hyd yn oed rwystrau bach fel hyn darfu’n sylweddol ar rai pysgod ac arafu eu taith i fyny'r afon.

Sut rydym yn helpu
Mae prosiect Pedair Afon LIFE yn gosod llwybr pysgod newydd ym mhont Llan-ffwyst. Bydd y gwaith yn creu sianel trwy sylfeini'r bont.
Byddwn yn gosod clogfeini yn y sianel, gan arafu llif yr afon i'w gwneud hi'n haws i bysgod nofio drwyddi.
Rydym wedi dylunio'r llwybr pysgod i helpu'r rhywogaethau mudol sydd i’w cael yn Afon Wysg, gan gynnwys eogiaid, brithyllod, gwangod, herlod, llysywod a llysywod pendoll.
Mae'r dyluniad wedi cael ei arwain gan Banel Cynghori Llwybrau Pysgod Cymru a Lloegr. Bydd y llwybr yn caniatáu i bysgod gyrraedd cynefinoedd a mannau silio ychwanegol yn rhan uchaf yr afon.
Mae hyn yn debygol o gymryd 12 wythnos rhwng mis Gorffennaf a mis Hydref, er mwyn osgoi tarfu ar amseroedd silio gwangod, herlod ac eogiaid.

Cysylltwch â ni
I gael rhagor o wybodaeth, gallwch anfon neges e-bost at y tîm yn uniongyrchol yma: 4AfonLIFE@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol: Facebook, X ac Instagram
Cysylltwch â ni: 4AfonLIFE@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Bydd y gweithgarwch hwn yn agor ar 1 Gorff 2026. Dychwelwch ar y dyddiad hwn, neu ar ôl hynny, i roi eich barn.Ardaloedd
- Usk
Cynulleidfaoedd
- Anglers
- Citizens
- citizens
- Coal Authority
- Community Volunteers
- DCWW
- Flooding
- Fly-fishing
- Gwirfoddolwyr Cymunedol
- Llifogydd
- NFU
- Rivers
- Wales Biodiversity Partnership
- water companies
Diddordebau
- Community Engagement
- Community Voulnteering
- Flooding
- Gwirfoddoli Cymunedol
- Llifogydd
- river basin planning
- water framework directive
- water planning
- WFD
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook