Cais Newbridge Energy Limited am drwydded amgylcheddol

Ar gau 22 Tach 2021

Wedi'i agor 25 Hyd 2021

Trosolwg

Rydym wedi derbyn cais am drwydded gan Newbridge Energy Limited o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.

Rhif y cais: PAN-005141/V002

Math o gyfleuster rheoledig: Atodlen 1, Rhan 2, Pennod 5, Adran 5.1 Rhan B (a)(v) Llosgi mewn gweithfa losgi fechan sy’n dal cyfanswm o 50 kg neu fwy yr awr o’r gwastraff canlynol – gwastraff pren ac eithrio gwastraff pren a allai gynnwys cyfansoddion organig halogenaidd neu fetelau trwm o ganlyniad i driniaeth â chadwolion pren neu gaenu, Atodlen 25A: Cyfarpar Hylosgi Canolig ac Atodlen 25B: Generadur Penodol

Lleoliad y cyfleuster rheoledig: Blazers Fuels, Lôn Brickfield, Ffordd Dinbych, Rhuthun, Sir Ddinbych, LL15 2TN

Mae Newbridge Energy Limited wedi cyflwyno cais am newid sylweddol i ychwanegu un boeler biomas newydd mewnbwn thermol 5.2 MW gwres a phŵer cyfunedig, sy’n defnyddio tanwydd o bren crai, at eu trwydded gyfredol. Ar hyn o bryd caniateir i’r Gweithredwr weithredu un boeler biomas mewnbwn thermol 5.2 MW gwres a phŵer cyfunedig sy’n defnyddio tanwydd o bren crai a phren gwastraff. Mae'r cyfleuster rheoledig yn cynnwys y broses losgi/hylosgi ei hun a’r broses o storio lludw gwaelod ar unwaith. Nid yw'r cyfleuster rheoledig yn cynnwys:

  • Storio, trin a/neu rag-drin pren gwastraff
  • Unrhyw ôl-driniaeth i lawr yr afon ar ludw gwaelod

Mae’r cais yn cynnwys disgrifiad o sut y gallai’r newidiadau arfaethedig effeithio ar y cyfleuster rheoledig; y deunyddiau, y sylweddau a’r ynni y bydd yn eu defnyddio ac yn eu cynhyrchu; ffynhonnell, natur ac ansawdd ei allyriadau rhagweladwy a’u heffaith posibl, y technegau arfaethedig ar gyfer rhwystro, lleihau a monitro ei allyriadau.

Am mwy o gwybodaeth dilynwch yr hypergysylltiadau isod ir Cofrestr Gyhoeddus ar Datganiad Cyfranogiad y Cyhoedd.’

Ardaloedd

  • Ruthin

Cynulleidfaoedd

Diddordebau

  • Permits