Gwybodaeth am weithrediadau coedwig yng Nghoedwig Slade
Trosolwg
Er mwyn gweld y dudalen hon yn Saesneg cliciwch yma
Pa fath o waith sy'n digwydd?
Bydd angen i ni wneud gwaith cwympo coed yng nghoetir Slade, er mwyn cael gwared ar y 6 hectar o goed llarwydd sy’n weddill sydd wedi’u heintio â Phytophora ramorum (sef clefyd coed llarwydd).
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda'n contractwyr i gytuno ar ddyddiad cychwyn a byddwn yn diweddaru'r dudalen hon cyn gynted ag y byddwn wedi cael cadarnhad.
Beth yw clefyd y llarwydd?
Mae clefyd y llarwydd, neu Phytophthora ramorum, yn glefyd tebyg i ffwng sy'n gallu achosi difrod helaeth a lladd amrywiaeth eang o goed a phlanhigion eraill. Mae clefyd y llarwydd yn lledaenu wrth i sborau hedfan yn yr awyr o goeden i goeden. Nid yw'n fygythiad i iechyd pobl nac anifeiliaid.
Er na allwn atal lledaeniad clefyd y llarwydd, gallwn gymryd camau i'w arafu.
Dysgwch fwy am ein dull o fynd i'r afael â chlefyd llarwydd a chlefyd coed ynn
Adar sy’n nythu
Cyn i unrhyw waith ddechrau, rydym yn gweithio'n agos ag arolygwr adar i gynnal arolwg trylwyr o'r safle i ganfod unrhyw adar sy'n nythu yno. Bydd ardal waharddedig yn cael ei rhoi o gwmpas unrhyw nythod a ddarganfyddir a bydd y timau'n gweithio o amgylch yr ardal nes bydd yr adar wedi gorffen magu a gadael y nyth.
Mynediad i'r goedwig yn ystod gweithrediadau
Mae'n debygol y bydd yn rhaid i ni gau mynediad cyhoeddus i rai ardaloedd o’r goedwig tra bydd gweithrediadau'n digwydd, er mwyn caniatáu i'r gwaith gael ei wneud yn gyflym ac yn ddiogel.
Er nad ydym yn hoffi cyfyngu ar fynediad i’n coedwigoedd, sy’n rhoi mwynhad i lawer, mae safleoedd cynaeafu byw yn hynod o beryglus, ac mae hyn yn angenrheidiol er mwyn diogelu ein staff, ein contractwyr, ac ymwelwyr â’r coetir.
Cofiwch ufuddhau i’r holl arwyddion sy’n nodi fod llwybrau ar gau neu wedi eu dargyfeirio. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i darfu gyn lleied ag sydd bosib ar y gymuned leol.
Dysgwch fwy am ymweld â'n coedwigoedd yn ddiogel yma
Ailblannu
Unwaith y bydd y llarwydd heintiedig wedi'u tynnu oddi yno, bydd yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt yn cael eu hailstocio â rhywogaethau brodorol trwy blannu a chaniatáu aildyfiant naturiol.
Map yn dangos yr ardal yr effeithiwyd arni
Give us your views
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: SEForest.operations@naturalresources.cymru
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Management
Diddordebau
- Forest Management
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook