Y diweddaraf am fanwerthu ac arlwyo yng nghanolfannau ymwelwyr Cyfoeth Naturiol Cymru
Trosolwg
Read this page in English / Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg
Rydym yn gweithio gyda’n cymunedau ac yn chwilio am bartneriaid i wella profiad ymwelwyr mewn dau o’r cyrchfannau awyr agored mwyaf prydferth a chyffrous yng Nghymru:
- Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth
- Canolfan Ymwelwyr Coed y Brenin, ger Dolgellau
Mae’r ddau gyrchfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i ymwelwyr fwynhau byd natur a gweithgareddau awyr agored. Mae llwybrau ac ardaloedd chwarae yno i’w mwynhau, ac mae’r safleoedd yn cynnig cyfleusterau parcio a thoiledau.
Mae ein cydweithwyr yn Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn gwneud gwaith pwysig i warchod bywyd gwyllt a chynnal yr amgylchedd.
Gallwch glicio ar y dolenni uchod os ydych yn cynllunio ymweliad ac yn chwilio am wybodaeth ymarferol am bethau o ddiddordeb, llwybrau a gweithgareddau, hygyrchedd a chyfarwyddiadau.
Diben y tudalennau hyn ydy rhoi gwybodaeth am newidiadau i’r Canolfannau Ymwelwyr yn y safleoedd, p’un a ydych chi’n byw’n lleol, yn ymweld â’r safleoedd, neu â diddordeb mewn gweithio gyda ni.
Ar hyn o bryd (Tachwedd 2025) rydym yn lansio dau ymarfer marchnata i ddod o hyd i’r partneriaid cywir i brydlesu’r Canolfannau Ymwelwyr, ac o bosibl rhai o’r ardaloedd cyfagos, ym Mwlch Nant yr Arian a Choed y Brenin.

Mae’r ddau safle’n cynnig cyfle i wella profiad ymwelwyr a gweithio o ddau o fannau awyr agored mwyaf arbennig Cymru.
Peidiodd y gwasanaethau manwerthu ac arlwyo a arferai CNC eu cynnig yn y canolfannau â gweithredu ym mis Mawrth 2025. Roedd hyn yn caniatáu inni ganolbwyntio ein hadnoddau ar gyflawni ein cenhadaeth graidd i gefnogi adferiad natur, mynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd, a lleihau llygredd.
Roedden ni wrth ein bodd o weld Hwb Natur Ynys-las (y Ganolfan Ymwelwyr gynt) yn ailagor ym mis Awst 2025 mewn partneriaeth â Hwb Cymunedol Borth. Mae’r elusen yn cynnig gweithgareddau a gweithdai i’r gymuned o’r adeilad, yn ogystal â detholiad o fwydydd oer a diodydd ar adegau penodol.
Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Consti, sy’n rhan o elusen leol, i gynnig bwydydd oer a diodydd dros dro i ymwelwyr ym Mwlch Nant yr Arian o uned ar y safle ac yn hysbysebu cyfle dros dro tebyg yng Nghoed y Brenin.
Ochr yn ochr â hyn, ein nod yw dod o hyd i bartneriaid hirdymor a chynaliadwy a all wella safleoedd Bwlch Nant yr Arian a Choed y Brenin er budd cymunedau lleol, busnesau lleol ac ymwelwyr, gan warchod byd natur ar yr un pryd. Gallai partïon posibl â diddordeb fod yn grwpiau cymunedol, mentrau neu fusnesau.
Er y bydd yr ymarfer marchnata yn lansio ym mis Tachwedd, mae’n debygol o gymryd sawl mis cyn i’r cynigion terfynol gael eu gwneud, yn Haf 2026. Bydd yr amserlen wedi hynny ar gyfer penodi partner terfynol yn dibynnu ar nifer ac ystod y cynigion a wnaed, yn ogystal â chytuno ar y telerau terfynol a gwiriadau iechyd a diogelwch.
Mae’r ymarfer yn cael ei gynnal gan Cyfoeth Naturiol Cymru mewn partneriaeth â Newmark, sy’n ddarparwr gwasanaethau ac ymgynghorydd blaenllaw ar eiddo masnachol. Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnig am y naill safle neu’r llall, cofrestrwch ar Gwerthwch i Gymru (dolen isod) neu cysylltwch â Leo Llewellyn, Ymgynghorydd Cyswllt Newmark, i gael rhagor o wybodaeth drwy e-bostio leo.llewellyn@nmrk.com neu ffonio 029 2038 1874.
Gwybodaeth i gynigwyr – Bwlch Nant yr Arian
Mae Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth yng Ngheredigion, yn gyrchfan awyr agored â chyfleusterau da.

Mae’n cynnig llwybrau prydferth wedi’u harwyddo ar gyfer cerdded, rhedeg, beicio a marchogaeth, gyda golygfeydd panoramig o Fae Ceredigion a Mynyddoedd Elenydd.
Mae’n adnabyddus am y bwydo barcutiaid coch sy’n digwydd yno bob dydd ers amser maith – golygfa ysblennydd!
Mae’r safle hefyd yn cynnwys parc sgiliau gyda thrac pwrpasol i feicwyr mynydd ymarfer eu technegau, yn ogystal ag ardaloedd chwarae.
Mae’r ganolfan ymwelwyr wedi’i lleoli ar gopa dramatig, yn pontio’r ffin rhwng yr iseldir a’r ucheldir.
Y prif gwmpas, sef y tir, yr asedau a’r elfennau gweithgaredd na ellir eu negodi ac a ddylai fod yn rhan o unrhyw gynnig, yw’r ardaloedd o amgylch craidd y ganolfan.
Mae hyn yn cynnwys y brif Ganolfan Ymwelwyr a’r maes parcio, adeilad y gofod digwyddiadau, y guddfan adar, y gorlan i gadw ceffylau, yr ardaloedd chwarae, y parc sgiliau, y llwybrau o amgylch y llyn a’r gweithgaredd bwydo barcutiaid coch.
Mae’r cwmpas dewisol yn golygu unrhyw asedau eraill y gallai cynigwyr fod eisiau cynnig eu prydlesu, ac maent yn cynnwys yr hen adeilad swyddfa, yr ystafell swyddfa/staff allanol, y llyn a llwybrau hamdden pellach.
Mae’r ymarfer yn cael ei gynnal gan Cyfoeth Naturiol Cymru mewn partneriaeth â Newmark, sy’n ddarparwr gwasanaethau ac ymgynghorydd blaenllaw ar eiddo masnachol. Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnig am y naill safle neu’r llall, cofrestrwch ar Gwerthwch i Gymru (dolen isod) neu cysylltwch â Leo Llewellyn, Ymgynghorydd Cyswllt Newmark, i gael rhagor o wybodaeth drwy e-bostio leo.llewellyn@nmrk.com neu ffonio 029 2038 1874
Bydd llyfryn gwybodaeth, yn cynnwys delweddau a mapiau, ar gael yn fuan i ddarpar gynigwyr.
Gwybodaeth i gynigwyr – Coed y Brenin
Mae Coed y Brenin wedi’i leoli ger Dolgellau ym Mharc Cenedlaethol Eryri ac mae’n ganolfan sefydledig ar gyfer gweithgareddau awyr agored.

Dyma oedd canolfan feicio mynydd bwrpasol gyntaf Prydain, ac mae’n dal i fod yn un o brif gyrchfannau’r gamp, gyda llwybrau i ddechreuwyr a rhai mwy technegol i feicwyr arbenigol. Mae gan yr ardal hefyd siop feiciau ac ardal sgiliau i ddatblygu technegau beicio.
Mae safle Coed y Brenin – y tirweddau coediog ac afonydd golygfaol – hefyd yn cynnig llwybrau cerdded wedi’u harwyddo a rhai sy’n addas i deuluoedd, yn ogystal ag ardaloedd chwarae i blant a byrddau picnic.
Y prif gwmpas, sef y tir, yr asedau a’r elfennau gweithgaredd na ellir eu negodi ac a ddylai fod yn rhan o unrhyw gynnig, yw’r ardaloedd o amgylch craidd y ganolfan.
Mae hyn yn cynnwys y brif Ganolfan Ymwelwyr a’r ystafell gynadledda, adeilad yr estyniad, y maes parcio a’r ardaloedd chwarae.
Mae’r cwmpas dewisol yn golygu unrhyw asedau eraill y gallai cynigwyr fod eisiau cynnig eu prydlesu, ac maent yn cynnwys y rhwydwaith llawn o lwybrau hamdden, a thir pellach ac adeilad (Maesgwm) a ddefnyddiwyd yn hanesyddol fel canolfan ymwelwyr.
Mae’r ymarfer yn cael ei gynnal gan Cyfoeth Naturiol Cymru mewn partneriaeth â Newmark, sy’n ddarparwr gwasanaethau ac ymgynghorydd blaenllaw ar eiddo masnachol. Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnig am y naill safle neu’r llall, cofrestrwch ar Gwerthwch i Gymru (dolen isod) neu cysylltwch â Leo Llewellyn, Ymgynghorydd Cyswllt Newmark, i gael rhagor o wybodaeth drwy e-bostio leo.llewellyn@nmrk.com neu ffonio 029 2038 1874.
Bydd llyfryn gwybodaeth, yn cynnwys delweddau a mapiau, ar gael yn fuan i ddarpar gynigwyr.
Mae gofod cymunedol Ynys-las yn cynnal gweithgareddau a gweithdai
Mae Hwb Cymunedol Borth yn rhedeg gofod cymunedol o’r enw Hwb Natur Ynys-las (y Ganolfan Ymwelwyr gynt) yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae’r cytundeb rheoli cymunedol, a ddechreuodd ar ddechrau mis Awst 2025, yn caniatáu i ran o adeilad Ynys-las gael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau a gweithdai cymunedol i ymgysylltu â’r gymuned leol ac er lles y gymuned.
Mae Hwb Cymunedol Borth, a sefydlwyd yn 2007, yn elusen sy’n cynnal amrywiaeth o weithgareddau a gweithdai i gymunedau o ogledd Ceredigion i Fachynlleth.
Maent hefyd yn darparu bwydydd oer a diodydd, gan gynnwys byrbrydau a hufen iâ, i’r cyhoedd ar adegau penodol.
Ewch i’w tudalen Facebook i gael gwybod mwy: Hwb Cymunedol Borth | Aberystwyth | Facebook
Mae ein holl lwybrau, meysydd parcio, ardaloedd chwarae a chyfleusterau toiled yn parhau i fod ar agor. Mae’r gwaith pwysig a wneir i warchod bywyd gwyllt ac i gynnal Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi hefyd yn dal i gael ei oruchwylio gan staff rheoli tir.
Cwestiynau Cyffredin gan y Gymuned: Bwlch Nant yr Arian
A oes bwyd a diod ar gael ar y safle?
Mae uned Consti yn darparu bwydydd oer a diodydd i ymwelwyr â Chanolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian.
Darperir bwyd o ffynonellau cynaliadwy, gyda ffocws ar ddefnyddio cynhyrchion Cymreig, a defnyddir plastig untro y gellir ei gompostio.
Mae’r uned ar agor rhwng 10am a 4pm, bum niwrnod yr wythnos, gan gynnwys pob penwythnos a’r rhan fwyaf o Wyliau y Banc.
Mae’r Consti yn rhan o elusen Rheilffordd y Graig Aberystwyth, sydd â gwerthoedd sy’n cyd-fynd â gwerthoedd CNC i warchod yr amgylchedd a hybu cynaliadwyedd.
A yw’r Ganolfan Ymwelwyr wedi rhoi’r gorau i’r ddarpariaeth manwerthu ac arlwyo?
Ydy, ar 31 Mawrth 2025 daeth y ddarpariaeth manwerthu ac arlwyo yr arferai CNC ei darparu yn y Ganolfan Ymwelwyr i ben.
Mae’r safle a phob un o’n llwybrau, y maes parcio a’r ardal chwarae yn dal i fod ar agor ac rydym yn dal i gynnal a chadw’r safle ac i sicrhau mynediad i’r cyhoedd. Ceir rhagor o wybodaeth i ymwelwyr ar ein gwefan.
A yw’r sesiynau bwydo barcudiaid coch yn parhau?
Ydyn, mae’r sesiynau bwydo barcutiaid coch ym Mwlch Nant yr Arian yn parhau. Gweler gwefan Bwlch Nant yr Arian am ragor o wybodaeth: Cyfoeth Naturiol Cymru / Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth
A yw’r cyfleusterau toiled yn dal ar agor i ymwelwyr?
Ydyn, mae’r cyfleusterau toiled yn hygyrch ac yn agored i’r cyhoedd.
Pwy sy’n gyfrifol am gynnal a chadw’r safle?
Nid oedd staff ein Canolfannau Ymwelwyr yn gyfrifol am reoli’r tir yn ein Canolfannau, nac o’u hamgylch. Cyfrifoldeb y staff rheoli tir yw hyn. Mae cadwraeth a chynnal y safleoedd hyn, gan gynnwys mynediad i’r cyhoedd, yn bwysig i CNC, ac yn parhau.
Rydym yn parhau i gyflawni ein dyletswyddau statudol fel rheolwr tir ar gyfer Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ym Mwlch Nant yr Arian, Coed y Brenin, ac Ynys-las.
A yw’r safle yn dal i fod yn agored i’r cyhoedd?
Ydy, rydym yn parhau i sicrhau a diogelu hawliau mynediad agored o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Bydd tir mynediad agored dynodedig a llwybrau caniataol y cytunwyd arnynt yn parhau i gael eu diogelu fel rhan o’r ymarfer marchnata hwn, ac i’r dyfodol.
Beth sy’n digwydd i’r llwybrau beicio ym Mwlch Nant yr Arian?
Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n cynnal a chadw’r llwybrau beicio ym Mwlch Nant yr Arian ond bydd yn ystyried a yw unrhyw gynigwyr yn dymuno cynnwys darpariaeth hamdden fel opsiwn yn eu cynigion. Os na chytunir ar hyn fel rhan o’r brydles, yna byddwn yn parhau i ymgymryd â’r rôl hon.
Mae mynediad cyhoeddus ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau awyr agored, nid beicio mynydd yn unig, yn parhau.
Pwy sy’n gyfrifol am ddiogelwch ar y safle?
Mae ymwelwyr â’n holl safleoedd, gan gynnwys y tair Canolfan Ymwelwyr, yn gyfrifol am eu diogelwch eu hunain yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda nhw yn ystod eu hymweliad. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein gwefan: Cyfoeth Naturiol Cymru / Ymweld â’n lleoedd yn ddiogel.
Mewn argyfwng, dylech bob amser ffonio 999.
Sut ydych chi’n atal ymddygiad gwrthgymdeithasol?
Mae staff rheoli tir yn parhau i fod yn bresennol ar y safle ac yn monitro unrhyw ymddygiad annymunol.
Mae camerâu teledu cylch cyfyng yn eu lle, a bydd y system ANPR newydd yn y maes parcio, a fydd yn weithredol o ddechrau 2026 ymlaen, yn rhoi mwy o reolaeth ac ymwybyddiaeth i ni o bwy sy’n teithio i’r safle.
Ni fydd mynediad i’r safle yn newid ac mae’n dal i fod ar agor i ymwelwyr yn unol â’r arfer. Fel yn y rhan fwyaf o leoliadau, mae presenoldeb aelodau eraill o’r cyhoedd yn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Atgoffir ymwelwyr mai eu cyfrifoldeb nhw yw cael gwared ar sbwriel neu wastraff, ac anogwn y cyhoedd i ddilyn y canllawiau a nodir yn y Cod Cefn Gwlad ac i beidio â gadael dim ar eu hôl.
Rydym yn annog ymwelwyr i roi gwybod i ni am ddigwyddiadau ar 0300 065 3000, sef ein llinell ddigwyddiadau 24 awr, fel y gallwn roi gwybod i’n rhwydwaith o reolwyr tir sydd â rota digwyddiadau 24/7 yn ei lle. Gellir hefyd adrodd am ddigwyddiadau ar-lein trwy ein gwefan: Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad
Sut mae’r system newydd i godi tâl am barcio yn gweithio?
Mae’r system newydd yn galluogi defnyddwyr lleol i reoli a chofrestru ar gyfer parcio am ddim trwy ap. Gall defnyddwyr eraill brynu tocynnau tymhorol a thalu am gyfnodau penodol, gyda’r rhai sy’n ymweld am gyfnodau byrrach yn talu llai. Mae cwsmeriaid yn dal i allu gwneud taliadau drwy’r peiriannau ar y safle, dros y ffôn a thrwy ap, a bydd gan ddefnyddwyr tan 23:59 ar ddiwrnod eu hymweliad i dalu.
Pryd fydd y broses farchnata ar gyfer Bwlch Nant yr Arian yn dechrau, a beth yw’r broses?
Lansiwyd yr ymarfer marchnata ar 28 Tachwedd 2025.
Ein nod yw dod o hyd i bartneriaid cynaliadwy, hirdymor a all wella’r safle er budd cymunedau a busnesau lleol ac ymwelwyr, gan warchod byd natur ar yr un pryd. Gallai partïon posibl â diddordeb fod yn grwpiau cymunedol, yn fentrau neu’n fusnesau.
Mae rhagor o wybodaeth i ddarpar gynigwyr ar gael mewn adrannau eraill ar y dudalen hon.
A fydd yn ofynnol i weithredwyr newydd Bwlch Nant yr Arian gynnal adeiladau’r Ganolfan Ymwelwyr fel rhan o’u contractau?
Bydd, mae cynnal a chadw prif adeilad y Ganolfan Ymwelwyr yn rhan hanfodol o brif gwmpas y cyfle tendro ar gyfer Bwlch Nant yr Arian.
Sut a phryd y gwnaed y penderfyniad i roi’r gorau i’r ddarpariaeth manwerthu ac arlwyo yn y Canolfannau Ymwelwyr?
Yn 2024, cynhaliodd CNC adolygiad i sicrhau ein bod mewn sefyllfa well i gyflawni amcanion ein cynllun corfforaethol i gefnogi adferiad byd natur, mynd i’r afael â newid hinsawdd a lleihau llygredd. Ystyriodd yr adolygiad yr hyn y gall ac y dylai CNC barhau i’w wneud, yr hyn y dylid cyfyngu arno a’r hyn y dylid rhoi’r gorau iddo er mwyn addasu i’r gostyngiad o £12 miliwn yn y gyllideb ddiwygiedig.
Yn dilyn ymgynghori helaeth ag undebau llafur a staff, ar 5 Tachwedd 2024 cyfarfu Bwrdd CNC a chytunwyd i weithredu newidiadau allweddol i fodloni’r heriau cyllidebol hynny ar yr un pryd â pharhau i gyflawni’r cenadaethau a nodir yn ein cynllun corfforaethol.
Y penderfyniad oedd na fydd CNC bellach yn gweithredu darpariaeth arlwyo a manwerthu yn uniongyrchol mewn Canolfannau Ymwelwyr. Yn hytrach, byddwn yn chwilio am bartneriaid, yn grwpiau cymunedol a busnesau, i gofrestru diddordeb mewn darparu’r gwasanaethau hyn i’r dyfodol.
Pa wybodaeth a ddefnyddiwyd i ddod i gasgliadau yn yr Achos dros Newid?
Cymeradwyodd Bwrdd CNC yr Achos dros Newid ar ôl ymgynghori’n helaeth â’r undebau llafur a’u haelodau ochr yn ochr ag ymgysylltu â staff drwy ein timau arwain. Fel rhan o’r gwaith o baratoi’r Achos dros Newid, cynhaliodd aelodau’r Tîm Arwain asesiad helaeth o risgiau ac effeithiau’r holl weithgareddau yr ydym yn ymgymryd â nhw, gan ddeall eu sail gyfreithiol a’u cyfraniad at y canlyniadau yn y cynllun corfforaethol a llythyr cylch gwaith tymor y llywodraeth.
Mae ymateb CNC i adborth yr undebau llafur yn dilyn yr ymgynghoriad i’w weld ar-lein: Achos dros Newid – Citizen Space Cyfoeth Naturiol Cymru – Citizen Space.
Pa ystyriaethau a roddwyd yn yr Achos dros Newid i’r effeithiau ar gymunedau lleol a’r sector twristiaeth yng Nghymru?
Nid sefydliad twristiaeth yw CNC. Diben CNC, fel y nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru), yw rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy o safbwynt Cymru, ac mae amcanion strategol CNC wedi’u nodi yn llythyr cylch gwaith tymor y llywodraeth sydd ar gael ar-lein: Cyfoeth Naturiol Cymru: Llythyr cylch gwaith tymor y Llywodraeth 2022 i 2026.
Cynhaliwyd yr Achos dros Newid mewn ymateb i bwysau ariannol sydd wedi ei gwneud yn ofynnol i ni symleiddio ein gweithgareddau a chanolbwyntio adnoddau ar ddarparu’r gwasanaethau hanfodol hynny sy’n fwy cydnaws â chyfrifoldebau statudol CNC.
Mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn dangos y bydd CNC yn cael £7.6 miliwn yn ychwanegol ar gyfer 2025-2026. Oni ellid defnyddio hwn i gadw’r ddarpariaeth manwerthu ac arlwyo ar agor?
Mae gan CNC ran bwysig i’w chwarae yn yr ymdrech i fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd, sy’n ddau argyfwng cydgysylltiedig, ac rydym yn falch o weld y materion hollbwysig hyn yn cael lle canolog yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.
Mae cyllideb ddrafft eleni yn newyddion cadarnhaol i CNC. Mae’r cynnydd yn y cyllid o ychydig dros £7.6 miliwn yn adlewyrchu pwysigrwydd y gwaith a wnawn a chydnabyddiaeth y llywodraeth o’r gwerth a ddarparwn.
Mae’r gyllideb ddangosol hon yn rhoi’r cyfle i ni gynllunio’n effeithiol ar gyfer y flwyddyn i ddod, gan alinio ein hymdrechion â blaenoriaethau gweinidogol ar yr un pryd â datblygu ein hamcanion ein hunain. Rydym yn falch o’r setliad, sy’n adlewyrchu cydnabyddiaeth o’n gwaith hollbwysig, ond rydym hefyd yn ymwybodol o’r heriau sydd o’n blaenau wrth i ni ymdopi â gofynion a phwysau esblygol.
Nid yw’r setliad hwn yn newid y penderfyniadau y cytunwyd arnynt i ddod â rhai gweithgareddau o dan yr Achos dros Newid i ben neu i gwtogi arnynt. Bydd y cyllid yn cael ei gyfeirio’n strategol tuag at y meysydd buddsoddi a nodwyd. Mae’r dull hwn yn sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni’r uchelgeisiau a amlinellwyd yn ein cynllun corfforaethol hyd at 2030.
Os oes gennyf gwestiynau am y newidiadau i Ganolfannau Ymwelwyr, sut gallaf ofyn i CNC?
Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau ynglŷn â phroses yr Achos dros Newid o safbwynt y Canolfannau Ymwelwyr drwy e-bost i ymgysylltu.masnachol@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Cwestiynau Cyffredin gan y Gymuned: Coed y Brenin
A yw’r Ganolfan Ymwelwyr wedi rhoi’r gorau i’r ddarpariaeth manwerthu ac arlwyo?
Ydy, ar 31 Mawrth 2025 daeth y ddarpariaeth manwerthu ac arlwyo yr arferai CNC ei darparu yn y Ganolfan Ymwelwyr i ben.
Mae’r safle a phob un o’n llwybrau, y maes parcio a’r ardal chwarae yn dal i fod ar agor ac rydym yn dal i gynnal a chadw’r safle ac i sicrhau mynediad i’r cyhoedd. Ceir rhagor o wybodaeth i ymwelwyr ar ein gwefan.
A yw’r cyfleusterau toiled yn dal ar agor i ymwelwyr?
Ydyn, mae’r cyfleusterau toiled yn hygyrch ac yn agored i’r cyhoedd.
Nawr bod y Ganolfan Ymwelwyr wedi cau pwy sy’n gyfrifol am gynnal a chadw’r safle?
Nid oedd staff ein Canolfannau Ymwelwyr yn gyfrifol am reoli’r tir yn y Canolfannau, nac o’u hamgylch. Cyfrifoldeb y staff rheoli tir yw hyn. Mae cadwraeth a chynnal y safleoedd hyn, gan gynnwys mynediad cyhoeddus, yn bwysig i ni, ac yn parhau.
Byddwn yn parhau i gyflawni ein dyletswyddau statudol fel rheolwr tir ar gyfer Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ym Mwlch Nant yr Arian, Coed y Brenin, ac Ynys-las.
A yw’r safle yn dal i fod yn agored i’r cyhoedd?
Ydy, rydym yn parhau i sicrhau a diogelu hawliau mynediad agored o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Bydd tir mynediad agored dynodedig a llwybrau caniataol y cytunwyd arnynt yn parhau i gael eu diogelu fel rhan o’r ymarfer marchnata hwn, ac i’r dyfodol.
Beth fydd yn digwydd i’r llwybrau beicio yng Nghoed y Brenin?
Bydd llwybrau beicio Coed y Brenin yn parhau i gael eu cynnal gan CNC trwy eu cyllidebau cynnal a chadw a ddyrannwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Er y bydd newidiadau i’r Tîm Hamdden fel rhan o’r Achos dros Newid, mae Coed y Brenin yn safle blaenoriaeth ac felly bydd yn parhau i gael ei gefnogi.
Bydd mynediad cyhoeddus i’r safleoedd hyn yn cael ei gynnal ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau awyr agored, nid beicio mynydd yn unig. Gellid cynnwys darpariaeth hamdden mewn unrhyw gynnig marchnad terfynol; fodd bynnag, nid oes penderfyniad wedi’i wneud ar hynny ar hyn o bryd.
Pwy fydd yn gyfrifol am ddiogelwch ar y safle?
Mae ymwelwyr â’n holl safleoedd, gan gynnwys y tair Canolfan Ymwelwyr, yn gyfrifol am eu diogelwch eu hunain yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda nhw yn ystod eu hymweliad. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein gwefan: Cyfoeth Naturiol Cymru / Ymweld â’n lleoedd yn ddiogel.
Mewn argyfwng, dylech bob amser ffonio 999.
A fydd darpariaeth arlwyo dros dro ar y safle nawr bod y Ganolfan Ymwelwyr wedi rhoi’r gorau i’w darpariaeth?
Ar hyn o bryd rydym yn hysbysebu i’r farchnad gyfle i gyflenwi gwasanaeth consesiwn dros dro ar gyfer diodydd poeth yng Nghoed y Brenin. Rhagwelir y byddai’r gwasanaeth consesiwn hwn yn parhau ar waith nes dod o hyd i weithredwyr newydd ar gyfer y Ganolfan Ymwelwyr. Mae rhagor o wybodaeth am sut i gyflwyno cynnig ar gael ar y dudalen we hon.
Sut byddwch yn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol?
Bydd staff rheoli tir yn parhau i fod yn bresennol ar y safle ac felly’n gallu monitro unrhyw ymddygiad annymunol.
Mae camerâu teledu cylch cyfyng eisoes ar waith, a bydd y system ANPR newydd yn y maes parcio, a fydd yn cael ei gosod ymhen ychydig fisoedd, yn rhoi mwy o reolaeth ac ymwybyddiaeth i ni o bwy sy’n teithio i’r safle.
Atgoffir ymwelwyr mai eu cyfrifoldeb nhw yw cael gwared ar sbwriel neu wastraff, ac anogwn y cyhoedd i ddilyn y canllawiau a nodir yn y Cod Cefn Gwlad ac i beidio â gadael dim ar eu hôl.
Rydym yn annog ymwelwyr i roi gwybod i ni am ddigwyddiadau ar 0300 065 3000, sef ein llinell ddigwyddiadau 24 awr, fel y gallwn roi gwybod i’n rhwydwaith o reolwyr tir sydd â rota digwyddiadau 24/7 yn ei lle. Gellir hefyd adrodd am ddigwyddiadau ar-lein trwy ein gwefan: Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad
Ni fydd mynediad i’r safle yn newid ac mae’n dal i fod ar agor i ymwelwyr yn unol â’r arfer. Fel yn y rhan fwyaf o leoliadau, mae presenoldeb aelodau eraill o’r cyhoedd yn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Sut bydd y system newydd i godi tâl am barcio yn gweithio?
Bydd y system newydd yn galluogi defnyddwyr lleol i reoli a chofrestru ar gyfer parcio am ddim trwy ap. Bydd defnyddwyr eraill yn gallu prynu tocynnau tymhorol a thalu am gyfnodau penodol, gyda’r rhai sy’n ymweld am gyfnodau byrrach yn talu llai. Bydd cwsmeriaid yn dal i allu gwneud taliadau drwy’r peiriannau ar y safle, dros y ffôn a thrwy ap a bydd gan ddefnyddwyr tan 23:59 ar ddiwrnod eu hymweliad i dalu.
Bydd y system newydd hon o gamerâu ANPR yn disodli’r cyfrifwyr ceir hŷn, llai dibynadwy ac yn sicrhau y gallwn symud a disodli’r hen offer mecanyddol yn ein safleoedd yn Niwbwrch a Choed y Brenin, gan gynnwys cael gwared ar gontractau cynnal a chadw.
Pryd fydd y broses farchnata ar gyfer Coed y Brenin yn dechrau, a beth yw’r broses?
Lansiwyd yr ymarfer marchnata ar 28 Tachwedd 2025.
Ein nod yw dod o hyd i bartneriaid cynaliadwy, hirdymor a all wella’r safle er budd cymunedau a busnesau lleol ac ymwelwyr, gan warchod byd natur ar yr un pryd. Gallai partïon posibl â diddordeb fod yn grwpiau cymunedol, mentrau neu fusnesau.
Mae rhagor o wybodaeth i ddarpar gynigwyr ar gael mewn adrannau eraill ar y dudalen hon.
A fydd yn ofynnol i weithredwyr newydd Coed y Brenin gynnal adeiladau’r Ganolfan Ymwelwyr fel rhan o’u contractau?
Bydd, mae cynnal a chadw’r Ganolfan Ymwelwyr yn rhan hanfodol o brif gwmpas y cyfle tendro ar gyfer Coed y Brenin.
Sut a phryd y gwnaed y penderfyniad i roi’r gorau i’r ddarpariaeth manwerthu ac arlwyo yn y Canolfannau Ymwelwyr?
Y llynedd, cynhaliodd CNC adolygiad i sicrhau ein bod mewn sefyllfa well i gyflawni amcanion ein cynllun corfforaethol i gefnogi adferiad byd natur, mynd i’r afael â newid hinsawdd a lleihau llygredd. Ystyriodd yr adolygiad yr hyn y gall ac y dylai CNC barhau i’w wneud, yr hyn y dylid cyfyngu arno a’r hyn y dylid rhoi’r gorau iddo er mwyn addasu i’r gostyngiad o £12 miliwn yn y gyllideb ddiwygiedig.
Yn dilyn ymgynghori helaeth ag undebau llafur a staff, ar 5 Tachwedd 2024 cyfarfu Bwrdd CNC a chytunwyd i weithredu newidiadau allweddol i fodloni’r heriau cyllidebol hynny ar yr un pryd â pharhau i gyflawni’r cenadaethau a nodir yn ein cynllun corfforaethol.
Y penderfyniad oedd na fydd CNC bellach yn gweithredu darpariaeth arlwyo a manwerthu yn uniongyrchol mewn Canolfannau Ymwelwyr. Yn hytrach, byddwn yn chwilio am bartneriaid, yn grwpiau cymunedol a busnesau, i gofrestru diddordeb mewn darparu’r gwasanaethau hyn i’r dyfodol.
Pa wybodaeth a ddefnyddiwyd i ddod i gasgliadau yn yr Achos dros Newid?
Cymeradwyodd Bwrdd CNC yr Achos dros Newid ar ôl ymgynghori’n helaeth â’r undebau llafur a’u haelodau ochr yn ochr ag ymgysylltu â staff drwy ein timau arwain.
Fel rhan o’r gwaith o baratoi’r Achos dros Newid, cynhaliodd aelodau’r Tîm Arwain asesiad helaeth o risgiau ac effeithiau’r holl weithgareddau yr ydym yn ymgymryd â nhw, gan ddeall eu sail gyfreithiol a’u cyfraniad at y canlyniadau yn y cynllun corfforaethol a llythyr cylch gwaith tymor y llywodraeth.
Mae ymateb CNC i adborth yr undebau llafur yn dilyn yr ymgynghoriad i’w weld ar-lein: Achos dros Newid – Citizen Space Cyfoeth Naturiol Cymru – Citizen Space.
Pa ystyriaethau a roddwyd yn yr Achos dros Newid i’r effeithiau ar gymunedau lleol a’r sector twristiaeth yng Nghymru?
Nid sefydliad twristiaeth yw CNC. Diben CNC, fel y nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru), yw rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy o safbwynt Cymru, ac mae amcanion strategol CNC wedi’u nodi yn llythyr cylch gwaith tymor y llywodraeth sydd ar gael ar-lein: Cyfoeth Naturiol Cymru: Llythyr cylch gwaith tymor y Llywodraeth 2022 i 2026.
Cynhaliwyd yr Achos dros Newid mewn ymateb i bwysau ariannol sydd wedi ei gwneud yn ofynnol i ni symleiddio ein gweithgareddau a chanolbwyntio adnoddau ar ddarparu’r gwasanaethau hanfodol hynny sy’n fwy cydnaws â chyfrifoldebau statudol CNC.
Mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn dangos y bydd CNC yn cael £7.6 miliwn yn ychwanegol ar gyfer 2025-2026. Oni ellir defnyddio hwn i gadw’r ddarpariaeth manwerthu ac arlwyo ar agor?
Mae gan CNC ran bwysig i’w chwarae yn yr ymdrech i fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd, sy’n ddau argyfwng cydgysylltiedig, ac rydym yn falch o weld y materion hollbwysig hyn yn cael lle canolog yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.
Mae cyllideb ddrafft eleni yn newyddion cadarnhaol i CNC. Mae’r cynnydd mewn cyllid o ychydig dros £7.6 miliwn yn adlewyrchu pwysigrwydd y gwaith a wnawn a chydnabyddiaeth y llywodraeth o’r gwerth a ddarparwn.
Mae’r gyllideb ddangosol hon yn rhoi’r cyfle i ni gynllunio’n effeithiol ar gyfer y flwyddyn i ddod, gan alinio ein hymdrechion â blaenoriaethau gweinidogol ar yr un pryd â datblygu ein hamcanion ein hunain. Rydym yn falch o’r setliad, sy’n adlewyrchu cydnabyddiaeth o’n gwaith hollbwysig, ond rydym hefyd yn ymwybodol o’r heriau sydd o’n blaenau wrth i ni ymdopi â gofynion a phwysau esblygol.
Nid yw’r setliad hwn yn newid y penderfyniadau y cytunwyd arnynt i ddod â rhai gweithgareddau o dan yr Achos dros Newid i ben neu i gwtogi arnynt. Bydd y cyllid yn cael ei gyfeirio’n strategol tuag at y meysydd buddsoddi a nodwyd. Mae’r dull hwn yn sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni’r uchelgeisiau a amlinellwyd yn ein cynllun corfforaethol hyd at 2030.
Os oes gennyf gwestiynau am y newidiadau i Ganolfannau Ymwelwyr, sut gallaf ofyn i CNC?
Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau ynglŷn â phroses yr Achos dros Newid o safbwynt y Canolfannau Ymwelwyr drwy e-bost i ymgysylltu.masnachol@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Cwestiynau Cyffredin gan y Gymuned: Ynys-las
A oes bwyd a diod ar gael ar y safle?
Mae Hwb Cymunedol Borth yn rhedeg gofod cymunedol o’r enw Hwb Natur Ynys-las (y Ganolfan Ymwelwyr gynt) yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi Cyfoeth Naturiol Cymru. Fel rhan o hyn, maent yn darparu bwydydd oer a diodydd, gan gynnwys byrbrydau a hufen iâ, i’r cyhoedd ar adegau penodol. Ewch i’w tudalen Facebook i gael gwybod mwy: Hwb Cymunedol Borth | Aberystwyth | Facebook
A yw’r Ganolfan Ymwelwyr wedi rhoi’r gorau i’r ddarpariaeth manwerthu ac arlwyo?
Mae’r hen Ganolfan Ymwelwyr bellach yn ofod cymunedol o’r enw Hwb Natur Ynys-las, sy’n cael ei redeg gan Hwb Cymunedol Borth. Fel rhan o hyn, maent yn darparu bwydydd oer a diodydd, gan gynnwys byrbrydau a hufen iâ, i’r cyhoedd ar adegau penodol. Ewch i’w tudalen Facebook i gael gwybod mwy: Hwb Cymunedol Borth | Aberystwyth | Facebook
Mae’r safle a phob un o’n llwybrau, ac meysydd parcio ar agor ac rydym yn dal i gynnal a chadw’r safle ac i sicrhau mynediad i’r cyhoedd. Ceir rhagor o wybodaeth i ymwelwyr ar ein gwefan.
Sut a phryd y gwnaed y penderfyniad i roi’r gorau i’r ddarpariaeth manwerthu ac arlwyo yn y Canolfannau Ymwelwyr?
Yn 2024, cynhaliodd CNC adolygiad i sicrhau ein bod mewn sefyllfa well i gyflawni amcanion ein cynllun corfforaethol i gefnogi adferiad byd natur, mynd i’r afael â newid hinsawdd a lleihau llygredd. Ystyriodd yr adolygiad yr hyn y gall ac y dylai CNC barhau i’w wneud, yr hyn y dylid cyfyngu arno a’r hyn y dylid rhoi’r gorau iddo er mwyn addasu i’r gostyngiad o £12 miliwn yn y gyllideb ddiwygiedig.
Yn dilyn ymgynghori helaeth ag undebau llafur a staff, ar 5 Tachwedd 2024 cyfarfu Bwrdd CNC a chytunwyd i weithredu newidiadau allweddol i fodloni’r heriau cyllidebol hynny ar yr un pryd â pharhau i gyflawni’r cenadaethau a nodir yn ein cynllun corfforaethol.
Y penderfyniad oedd na fydd CNC bellach yn gweithredu darpariaeth arlwyo a manwerthu yn uniongyrchol mewn Canolfannau Ymwelwyr. Yn hytrach, byddwn yn chwilio am bartneriaid, yn grwpiau cymunedol a busnesau, i gofrestru diddordeb mewn darparu’r gwasanaethau hyn i’r dyfodol.
Pa wybodaeth a ddefnyddiwyd i ddod i gasgliadau’r Achos dros Newid?
Cymeradwyodd Bwrdd CNC yr Achos dros Newid ar ôl ymgynghori’n helaeth â’r undebau llafur a’u haelodau ochr yn ochr ag ymgysylltu â staff drwy ein timau arwain.
Fel rhan o’r gwaith o baratoi’r Achos dros Newid, cynhaliodd aelodau’r Tîm Arwain asesiad helaeth o risgiau ac effeithiau’r holl weithgareddau yr ydym yn ymgymryd â nhw, gan ddeall eu sail gyfreithiol a’u cyfraniad at y canlyniadau yn y cynllun corfforaethol a llythyr cylch gwaith tymor y llywodraeth.
Mae ymateb CNC i adborth yr undebau llafur yn dilyn yr ymgynghoriad i’w weld ar-lein: Achos dros Newid – Citizen Space Cyfoeth Naturiol Cymru – Citizen Space.
Pwy sy’n gyfrifol am gynnal a chadw’r safle?
Nid oedd staff Canolfannau Ymwelwyr yn gyfrifol am reoli’r tir yn y Canolfannau nac o’u hamgylch. Cyfrifoldeb staff rheoli tir yw hyn, sy’n cael eu cefnogi gan dimau eraill o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru.
Yn Ynys-las rydym wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau bod y gwaith a wneir i warchod bywyd gwyllt a’r amgylchedd naturiol yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi yn parhau. Bydd ein tîm rheoli tir yn parhau i reoli’r warchodfa natur i gyflawni ein rhwymedigaethau statudol.
Pwy sy’n gyfrifol am ddiogelwch ar y safle?
Mae ymwelwyr â’n holl safleoedd yn gyfrifol am eu diogelwch eu hunain yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda nhw yn ystod eu hymweliad. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein gwefan: Cyfoeth Naturiol Cymru / Ymweld â’n lleoedd yn ddiogel. Mewn argyfwng, dylech bob amser ffonio 999.
Mae Ynys-las yn draeth baner goch ac wedi’i labelu’n glir felly; mae arwyddion wedi’u gosod yn amlwg ar hyd y traeth a’r aber yn hysbysu’r cyhoedd o’r peryglon.
O ran ordnans yr Ail Ryfel Byd, mae arwyddion rhybuddio wedi’u gosod o amgylch safle Ynys-las ynghyd â lluniau o’r mathau o ordnans a ddarganfuwyd, yn cynghori pobl i gysylltu â’r gwasanaethau brys os ydynt yn dod ar draws un. Os rhoddir gwybod am ordnans, bydd ein tîm digwyddiadau yn trefnu bod yr ardal yn cael ei chau, a bydd y digwyddiad yn cael ei drin fel digwyddiad â blaenoriaeth. Mae rota ymateb bob awr o’r dydd, bob dydd o’r wythnos ar waith i sicrhau ymateb cyflym, os bydd angen mynd i safle neu os bydd angen cymryd camau gweithredu eraill.
A yw’r cyfleusterau toiled yn dal ar agor i ymwelwyr?
Ydyn, mae’r cyfleusterau toiled yn hygyrch ac yn agored i’r cyhoedd.
Sut ydych chi’n atal ymddygiad gwrthgymdeithasol?
Mae staff rheoli tir yn parhau i fod yn bresennol ar y safle ac yn monitro unrhyw ymddygiad annymunol. Mae rhai camerâu cylch cyfyng yn eu lle, ac mae mwy yn cael eu gosod. Fel yn y rhan fwyaf o leoliadau, mae presenoldeb aelodau eraill o’r cyhoedd yn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Atgoffir ymwelwyr mai eu cyfrifoldeb nhw yw cael gwared ar sbwriel neu wastraff, ac anogwn y cyhoedd i ddilyn y canllawiau a nodir yn y Cod Cefn Gwlad ac i beidio â gadael dim ar eu hôl.
Rydym yn annog ymwelwyr i roi gwybod i ni am ddigwyddiadau ar 0300 065 3000, sef ein llinell ddigwyddiadau 24 awr, fel y gallwn roi gwybod i’n rhwydwaith o reolwyr tir sydd â rota digwyddiadau 24/7 yn ei lle. Gellir hefyd adrodd am ddigwyddiadau ar-lein trwy ein gwefan: Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad
A oes angen i mi dalu i barcio yn Ynys-las?
Oes. Mae’n £4 y dydd neu £40 am docyn tymor blynyddol a bydd angen i chi dalu gofalwr y maes parcio wrth gyrraedd gydag arian parod neu gerdyn.
Fodd bynnag, mae parcio am ddim i gerbydau sy’n arddangos Bathodyn Glas ac i breswylwyr lleol. I weld a yw eich cyfeiriad o fewn yr ardal gymwys, gofynnwch i ofalwr y maes parcio wrth gyrraedd. Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o’ch cyfeiriad megis trwydded yrru neu fil cyfleustodau diweddar i gael eich tocyn parcio am ddim sy’n ddilys am flwyddyn o’r dyddiad cyhoeddi.
Mae tocynnau parcio ar gael i’r rhai sy’n berchen ar ail gartrefi cyn belled â’ch bod yn gallu dangos eich bod yn gymwys, er enghraifft eich bod chi’n talu’r Dreth Gyngor. Fodd bynnag, nid yw’r rhai sydd ar eu gwyliau mewn tai gwyliau neu eiddo rhent yn gymwys i gael tocyn.
Pwy sy’n rheoli’r maes parcio yn Ynys-las?
Dyfarnwyd contract i Diogel am flwyddyn, o fis Ebrill 2025, gyda’r posibilrwydd o estyniad am hyd at dair blynedd, i reoli safle maes parcio’r traeth yng Nghanolfan Ymwelwyr Ynys-las yn llawn amser.
Pam wnaeth CNC fabwysiadu agwedd wahanol ynglŷn ag Ynys-las o gymharu â Bwlch Nant yr Arian a Choed y Brenin?
Mae Ynys-las yn unigryw gan ei bod yn rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi. Mae gan yr aber ardaloedd helaeth o wastadeddau llaid, banciau tywod a morfeydd heli o bwysigrwydd rhyngwladol sy’n darparu mannau bwydo a chlwydo i adar gwlyptir. Fel y cyfryw, mae gan Ynys-las anghenion a gofynion statudol penodol y mae gwarchod y warchodfa natur genedlaethol yn flaenoriaeth iddynt. Bydd hyn yn cynnwys cadw swyddfa ar y safle ar gyfer y staff rheoli tir.
Mae Canolfan Ymwelwyr Ynys-las hefyd yn wahanol i Fwlch Nant yr Arian a Choed y Brenin gan nad oes darpariaeth arlwyo yno.
Pa ystyriaethau a roddwyd yn yr Achos dros Newid i’r effeithiau ar gymunedau lleol a’r sector twristiaeth yng Nghymru?
Nid sefydliad twristiaeth yw CNC. Diben CNC, fel y nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru), yw rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy o safbwynt Cymru, ac mae amcanion strategol CNC wedi’u nodi yn llythyr cylch gwaith tymor y llywodraeth sydd ar gael ar-lein: Cyfoeth Naturiol Cymru: Llythyr cylch gwaith tymor y Llywodraeth 2022 i 2026.
Cynhaliwyd yr Achos dros Newid mewn ymateb i bwysau ariannol sydd wedi ei gwneud yn ofynnol i ni symleiddio ein gweithgareddau a chanolbwyntio adnoddau ar ddarparu’r gwasanaethau hanfodol hynny sy’n fwy cydnaws â chyfrifoldebau statudol CNC.
Mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn dangos y bydd CNC yn cael £7.6 miliwn yn ychwanegol ar gyfer 2025-2026. Oni ellid defnyddio hwn i gadw’r ddarpariaeth manwerthu ac arlwyo ar agor?
Mae gan CNC ran bwysig i’w chwarae yn yr ymdrech i fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd, sy’n ddau argyfwng cydgysylltiedig, ac rydym yn falch o weld y materion hollbwysig hyn yn cael lle canolog yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru.
Mae cyllideb ddrafft eleni yn newyddion cadarnhaol i CNC. Mae’r ychydig dros £7.6 miliwn yn ychwanegol o gyllid yn adlewyrchu pwysigrwydd y gwaith a wnawn a chydnabyddiaeth y llywodraeth o’r gwerth a ddarparwn.
Mae’r gyllideb ddangosol hon yn rhoi’r cyfle i ni gynllunio’n effeithiol ar gyfer y flwyddyn i ddod, gan alinio ein hymdrechion â blaenoriaethau gweinidogol ar yr un pryd â datblygu ein hamcanion ein hunain. Rydym yn falch o’r setliad, sy’n adlewyrchu cydnabyddiaeth o’n gwaith hollbwysig, ond rydym hefyd yn ymwybodol o’r heriau sydd o’n blaenau wrth i ni ymdopi â gofynion a phwysau esblygol.
Nid yw’r setliad hwn yn newid y penderfyniadau y cytunwyd arnynt i ddod â rhai gweithgareddau o dan yr Achos dros Newid i ben neu i gwtogi arnynt. Bydd y cyllid yn cael ei gyfeirio’n strategol tuag at y meysydd buddsoddi a nodwyd. Mae’r dull hwn yn sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni’r uchelgeisiau a amlinellwyd yn ein cynllun corfforaethol hyd at 2030.
Os oes gennyf gwestiynau am y newidiadau i Ganolfannau Ymwelwyr, sut gallaf ofyn i CNC?
Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau ynglŷn â phroses yr Achos dros Newid o safbwynt y Canolfannau Ymwelwyr drwy e-bost i ymgysylltu.masnachol@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Hanes ar newidiadau i ganolfannau ymwelwyr
Yn ystod 2024, cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru adolygiad i sicrhau ein bod mewn sefyllfa well i gyflawni amcanion ein cynllun corfforaethol i gefnogi adferiad byd natur, mynd i’r afael â newid hinsawdd a lleihau llygredd.
Ystyriodd yr adolygiad yr hyn y gall ac y dylai CNC barhau i’w wneud, yr hyn y dylid cyfyngu arno a’r hyn y dylid rhoi’r gorau iddo er mwyn addasu i’r gostyngiad o £12 miliwn yn y gyllideb ddiwygiedig.
Yn dilyn ymgynghori helaeth ag undebau llafur a staff, ar 5 Tachwedd 2024 cyfarfu Bwrdd CNC a chytunwyd i weithredu newidiadau allweddol i fodloni’r heriau cyllidebol hynny ar yr un pryd â pharhau i gyflawni’r cenadaethau a nodir yn ein cynllun corfforaethol.
Y penderfyniad oedd na fyddai CNC bellach yn gweithredu darpariaeth arlwyo a manwerthu yn uniongyrchol mewn Canolfannau Ymwelwyr.
Cynhaliwyd cyfarfodydd cyhoeddus i ymgysylltu â’r gymuned leol a phobl â diddordeb yn:
- Neuadd Gymunedol Borth 25 Tachwedd 2024
- Neuadd Penllwyn Capel Bangor, Aberystwyth 26 Tachwedd 2024
- Neuadd Bentref Ganllwyd, Ganllwyd 27 Tachwedd 2024
Ein nod nawr yw dod o hyd i bartneriaid hirdymor a chynaliadwy a all wella safleoedd Bwlch Nant yr Arian a Choed y Brenin er budd cymunedau lleol, busnesau lleol ac ymwelwyr, gan warchod byd natur ar yr un pryd. Gallai partïon posibl â diddordeb fod yn grwpiau cymunedol, yn fentrau neu’n fusnesau.
Cynhaliwyd sesiynau galw heibio gyda phobl â diddordeb yn gynharach eleni:
- Dydd Mercher 8 Ionawr 2025 yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Aberystwyth
- Dydd Llun 13 Ionawr 2025 yng Nghanolfan Ymwelwyr Coed y Brenin
- Dydd Llun 20 Ionawr 2025 yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Aberystwyth
- Dydd Gwener 24 Ionawr 2025 yng Nghanolfan Ymwelwyr Coed y Brenin.
Cynhaliwyd diwrnodau agored i ddarpar gynigwyr yn y ddau safle yn ystod mis Hydref 2025 hefyd, yn ogystal ag apwyntiadau unigol.
Ers hynny, rydym wedi bod mewn cyfnod o baratoi. Mae hyn wedi cynnwys gwiriadau cyfreithiol a llywodraethu mewnol, yn ogystal â chynllunio proses wedi’i llywio gan yr hyn rydym wedi’i ddysgu hyd yn hyn a’i glywed gan ein cydweithwyr, ein partneriaid a’n cymunedau.
Lansiwyd y cyfnod marchnata ffurfiol ar 28 Tachwedd 2025 a bydd yn rhedeg tan Haf 2026. Mae’r ymarfer yn cael ei gynnal gan Cyfoeth Naturiol Cymru mewn partneriaeth â Newmark, sy’n ddarparwr gwasanaethau ac ymgynghorydd blaenllaw ar eiddo masnachol.
GwerthwchiGymru
Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnig am y safleoedd, cysylltwch â Leo Llewellyn, Ymgynghorydd Cyswllt Newmark, drwy e-bostio leo.llewellyn@nmrk.com neu ffonio 029 2038 1874.
Gofynnir i gynigwyr ddefnyddio porth caffael gwefan GwerthwchiGymru. Fe’i sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu:
- busnesau i ennill contractau gyda’r sector cyhoeddus ar draws Cymru
- prynwyr sector cyhoeddus i hysbysebu a rheoli cyfleoedd tendro
- busnesau i hyrwyddo eu gwasanaethau
- busnesau i ddod o hyd i gyfleoedd contract
Gallwch gofrestru a chael gwybod mwy yn Gwerthwch i Gymru: Croeso i GwerthwchiGymru
Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnig am y safleoedd, cysylltwch â Leo Llewellyn, Ymgynghorydd Cyswllt Newmark, drwy e-bostio leo.llewellyn@nmrk.com neu ffonio 029 2038 1874.
Ardaloedd
- Pob Ardal
Cynulleidfaoedd
- Adfer afonydd
- Anglers
- Arbenigwyr adfer mwyngloddiau
- Citizens
- citizens
- Coal Authority
- Coastal Group Members
- Cockles
- Community Volunteers
- DCWW
- Designated Landscapes
- Educators
- EPR and COMAH facilities
- Equality, Diversity and Inclusion
- Flooding
- Fly-fishing
- Forest Management
- Gwent
- Gwirfoddolwyr Cymunedol
- Llifogydd
- marine developers
- marine planners
- Metal mines
- Mine recovery specialists
- Mwyngloddiau metel
- National Access Forum
- Network Completion Project Task and Finish Group
- Newport Green and Safe Spaces
- NFU
- River restoration
- Rivers
- SoNaRR2020
- South West Stakeholder group
- Tirweddau dynonedig
- Wales Biodiversity Partnership
- water companies
- Woodland Opportunity Map users
Diddordebau
- National Access Forum
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook