Beth yw eich barn am ein cylchlythyr? Ydych chi’n ei ddarllen? A yw’n rhoi’r wybodaeth yr ydych yn ei ddisgwyl mewn ffordd amserol? Ydych chi’n credu y gellir ei wella?
Materion Pren oedd un o’r sianelau newydd a sefydlwyd gennym ym Mai 2019 fel rhan o’n hymrwymiad i wella ein dulliau cyfathrebu a’n hymgysylltiad â chi.
Mae ein perthynas ni gyda chi yn bwysig i ni ac roeddem yn cydnabod bod gwaith gennym i’w wneud er mwyn ailsefydlu ymddiriedaeth a ffydd. Ers hynny rydym wedi bod yn gweithio’n galed i wella ein sianelau cyfathrebu, ond gwyddom fod lle i wella bob amser. Felly mae’ch adborth yn rhan bwysig o hyn.
Rydym yn cynnal arolwg cwsmeriaid byr i’n cynorthwyo i ddeall pa newyddion a gwybodaeth yr ydych chi am eu clywed gennym yn y dyfodol, fel ein bod yn medru sicrhau ein bod yn rhannu’r diweddariadau sy’n bwysig a pherthnasol i chi.
Rydym yn awyddus i sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth angenrheidiol gennym fel ein bod yn medru mynd i’r afael ag unrhyw faterion yn sydyn ac effeithiol, ac er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gwella ein gwasanaethau i gwsmeriaid.
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth o’r arolwg i’n cynorthwyo i nodi meysydd sydd angen eu gwella, fel ein bod yn medru sicrhau bod ein cyfathrebu mor effeithiol â phosib, yn ein cynorthwyo ni i’ch helpu chi fel cwsmeriaid a’r diwydiant pren a sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer Cymru..
Felly os oes gennych ychydig funudau yn sbâr, byddem yn gwerthfawrogi’n fawr pe byddech yn rhannu’ch adborth gyda ni.
Bydd holl ymatebion yr arolwg yn ddienw.
Bydd yr arolwg yn cau ar 23 Tachwedd 2020
Os nad ydych wedi tanysgrifio i newyddlen Materion Pren ar hyn o bryd ond y byddai gennych ddiddordeb mewn derbyn diweddariadau am ein gwaith pren a choedwigaeth, gallwch danysgrifio ar ein gwefan drwy nodi eich cyfeiriad e-bost yn yr adran gofrestru â newyddlenni ar waelod y dudalen ac yna dewis Materion Pren o’r rhestr.
Diolch i chi am gymryd amser i ymateb i’n harolwg.
Mae’ch adborth yn bwysig i ni ac fe’i defnyddir i wella ansawdd ein dulliau cyfathrebu â chi yn y dyfodol
Share
Share on Twitter Share on Facebook