Cynllun Statws y Goedwig Genedlaethol

Closes 30 Sep 2025

Opened 23 Jul 2023

Overview

Ym mis Mawrth 2020, cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford gynlluniau ar gyfer Coedwig Genedlaethol i Gymru, sydd â’r nod o greu rhwydwaith cysylltiedig o goetiroedd a choedwigoedd sydd wedi’u dylunio a’u rheoli’n dda, yn ymestyn ar hyd a lled y wlad.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn helpu i chwarae rhan bwysig yn y gwaith o warchod natur a mynd i’r afael â cholled bioamrywiaeth, a bydd yn helpu i ddod â phobl ynghyd, i fod yn etifeddiaeth hirhoedlog i genedlaethau’r dyfodol.

Beth yw Cynllun Statws y Goedwig Genedlaethol?

Agorodd Cynllun Statws y Goedwig Genedlaethol ar 23 Mehefin. Mae’r cynllun yn galluogi coetiroedd rhagorol i ymuno â rhwydwaith y Goedwig Genedlaethol i Gymru.

Mae dod yn rhan o’r Goedwig Genedlaethol i Gymru yn golygu bod yn rhan o rywbeth unigryw ar gyfer pobl Cymru. O gael statws y Goedwig Genedlaethol i Gymru, caiff coetiroedd rhagorol eu cydnabod a dod yn rhan o rywbeth cenedlaethol, ac mae’n cynnig cyfleoedd i gysylltu coetiroedd mewn llawer o wahanol ffyrdd.

Gwahoddir ceisiadau gan unrhyw un sy’n berchen ar goetir yng Nghymru neu sydd â rheolaeth dros un.

Ni fydd cyfyngiad ar nifer y coetiroedd y gellir dyfarnu Statws y Goedwig Genedlaethol i Gymru iddynt, a gellir gwneud cais ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, ond caiff ceisiadau eu hystyried ar adegau penodol.

Bydd coetiroedd yn cael cydnabyddiaeth fel safleoedd y Goedwig Genedlaethol i Gymru os byddant yn dangos sut maent yn bodloni canlyniadau’r Goedwig Genedlaethol i Gymru:

  • Coetiroedd gwydn o ansawdd da, sydd wedi’u dylunio a’u rheoli’n dda
  • Coetiroedd sy’n hygyrch i bobl
  • Cyfranogiad cymunedau mewn coetiroedd
  • Coetiroedd cysylltiedig
  • Coetiroedd a choed deinamig, aml-ddiwylliannol
  • Coetiroedd sy’n dangos dysg, ymchwil ac arloesi

Rhoddir Statws y Goedwig Genedlaethol ar sail wirfoddol, a gall safleoedd adael y Goedwig Genedlaethol i Gymru ar unrhyw adeg.

Pa gymorth sydd ar gael?

Rydym wedi sefydlu tîm pwrpasol o Swyddogion Cyswllt a’i rôl yw helpu i hwyluso a galluogi perchnogion coetiroedd gyda’u dyheadau i greu a gwella coetiroedd a datblygu rhwydwaith y Goedwig Genedlaethol i Gymru.

Mae chwe Swyddog Cyswllt Coetiroedd gan y Goedwig Genedlaethol ar hyd a lled Cymru.

Bydd y tîm yn hwyluso ac yn galluogi perchnogion coetiroedd gyda’u dyheadau i greu a gwella coetiroedd yn unol â Chanlyniadau’r Goedwig Genedlaethol ac yn helpu i ddod â choetiroedd i mewn i Rwydwaith y Goedwig Genedlaethol i Gymru drwy’r cynllun statws.

Mae canllawiau hefyd wedi’u rhoi mewn lle i’ch helpu gyda’r broses ymgeisio.

Nodwch y bydd angen i ymgeiswyr gwrdd â’u Swyddog Cyswllt Coedwig cyn cyflwyno ffurflen gais, a fydd yn gallu rhoi cyngor ar y broses.

I ddysgu mwy am y cynllun a sut i wneud cais, cliciwch yma:

https://www.llyw.cymru/statws-coedwig-genedlaethol-cymru

Mae cyllid ar gael drwy wahanol opsiynau i helpu safleoedd i fodloni Canlyniadau’r Goedwig Genedlaethol i Gymru neu i wella safleoedd y Goedwig Genedlaethol. Gall y tîm helpu i roi cyngor i chi ar y cynlluniau perthnasol a chefnogi ceisiadau am y Grant Buddsoddi mewn Coetir neu Coetiroedd Bach.

Sut alla i gysylltu â’m Swyddog Cyswllt Coetiroedd?

I gysylltu â’ch Swyddog Cyswllt Coetiroedd, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â:

StatwsCoedwigGenedlaetholCymru@cyfoethnaturiol.cymru

Areas

  • All Areas

Audiences

  • Management
  • Cymraeg

Interests

  • Forest Management