Cynllun Statws y Goedwig Genedlaethol

Yn cau 30 Medi 2025

Wedi'i agor 23 Gorff 2023

Trosolwg

Gweld y dudalen hon yn Saesneg

Agorodd Cynllun Statws Coedwig Genedlaethol Cymru ar 23 Mehefin ac mae’n galluogi coetiroedd rhagorol i ymuno â rhwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru.

Cynnwys

Croeso i Gynllun Statws Coedwig Genedlaethol Cymru

Pa gymorth sydd ar gael?

Safleoedd y Goedwig Genedlaethol (drwy'r cynllun statws) hyd yma

Dolenni defnyddiol

Croeso i Gynllun Statws Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae dod yn rhan o’r Goedwig Genedlaethol i Gymru yn golygu bod yn rhan o rywbeth unigryw ar gyfer pobl Cymru. O gael statws y Goedwig Genedlaethol i Gymru, caiff coetiroedd rhagorol eu cydnabod a dod yn rhan o rywbeth cenedlaethol, ac mae’n cynnig cyfleoedd i gysylltu coetiroedd mewn llawer o wahanol ffyrdd.

Gwahoddir ceisiadau gan unrhyw un sy’n berchen ar goetir yng Nghymru neu sydd â rheolaeth dros un.

Ni fydd cyfyngiad ar nifer y coetiroedd y gellir dyfarnu Statws y Goedwig Genedlaethol i Gymru iddynt, a gellir gwneud cais ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, ond caiff ceisiadau eu hystyried ar adegau penodol.

Bydd coetiroedd yn cael cydnabyddiaeth fel safleoedd y Goedwig Genedlaethol i Gymru os byddant yn dangos sut maent yn bodloni canlyniadau’r Goedwig Genedlaethol i Gymru:

  • Coetiroedd gwydn o ansawdd da, sydd wedi’u dylunio a’u rheoli’n dda
  • Coetiroedd sy’n hygyrch i bobl
  • Cyfranogiad cymunedau mewn coetiroedd
  • Coetiroedd cysylltiedig
  • Coetiroedd a choed deinamig, aml-ddiwylliannol
  • Coetiroedd sy’n dangos dysg, ymchwil ac arloesi

Rhoddir Statws y Goedwig Genedlaethol ar sail wirfoddol, a gall safleoedd adael y Goedwig Genedlaethol i Gymru ar unrhyw adeg.

Pa gymorth sydd ar gael?

Rydym wedi sefydlu tîm pwrpasol o Swyddogion Cyswllt a’i rôl yw helpu i hwyluso a galluogi perchnogion coetiroedd gyda’u dyheadau i greu a gwella coetiroedd a datblygu rhwydwaith y Goedwig Genedlaethol i Gymru.

Mae chwe Swyddog Cyswllt Coetiroedd gan y Goedwig Genedlaethol ar hyd a lled Cymru.

Bydd y tîm yn hwyluso ac yn galluogi perchnogion coetiroedd gyda’u dyheadau i greu a gwella coetiroedd yn unol â Chanlyniadau’r Goedwig Genedlaethol ac yn helpu i ddod â choetiroedd i mewn i Rwydwaith y Goedwig Genedlaethol i Gymru drwy’r cynllun statws.

Mae canllawiau hefyd wedi’u rhoi mewn lle i’ch helpu gyda’r broses ymgeisio.

Nodwch y bydd angen i ymgeiswyr gwrdd â’u Swyddog Cyswllt Coedwig cyn cyflwyno ffurflen gais, a fydd yn gallu rhoi cyngor ar y broses.

I ddysgu mwy am y cynllun a sut i wneud cais, cliciwch yma:

https://www.llyw.cymru/statws-coedwig-genedlaethol-cymru

Safleoedd y Goedwig Genedlaethol (drwy'r cynllun statws) hyd yma

Ers i’r cynllun agor ym mis Mehefin 2023, rydym wedi croesawu 50 o goetiroedd newydd i rwydwaith y Goedwig Genedlaethol drwy ein cynllun statws – Llongyfarchiadau i’r holl berchnogion coetir!

Edrychwn ymlaen at groesawu llawer mwy o goetiroedd i'r rhwydwaith. 

Diweddariad mis Tachwedd 2024

Ar 15 Tachwedd roeddem yn hynod o falch o gael croesawu 18 o safleoedd newydd i rwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru, yn y rownd fwyaf o geisiadau a gawsom hyd yma.

Mae hyn yn golygu fod gennym 55 o Safleoedd Cynllun Statws erbyn hyn fel rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru, sy’n gorchuddio dros 3600 hectar.

Mae'r 18 choetir newydd yn cynnig amrywiaeth o fuddion unigryw - o ardaloedd gwarchodedig sy'n gynefin pwysig i'n bywyd gwyllt, i ardaloedd sy'n cynnig mannau gwyrdd gwerthfawr i bobl eu mwynhau.

Yn y De mae gennym Goedwig Strawberry Cottage, coetir derw hynafol a reolir gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent. Mae’r coetir hwn sydd hefyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn llawn bioamrywiaeth ac yn gartref i sawl rhywogaeth nodedig. Mae gan yr ymddiriedolaeth grwpiau gwirfoddol rheolaidd yn gweithio yn y goedwig ac mae'r safle'n cael ei ddefnyddio'n helaeth gan y gymuned leol.

Yng Nghanolbarth Cymru mae gennym y coetiroedd yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen, sef Coetir Hynafol Lled-naturiol, a reolir gan yr elusen amgylcheddol Canolfan y Dechnoleg Amgen

Mae Coed Gwern wedi’i drawsnewid o fod yn blanhigfa gonwydd i fod yn goetir brodorol amrywiol a gwydn gan ddefnyddio Systemau Coedwriaeth Effaith Isel. Defnyddir pren sy’n cael ei gynaeafu o’r coetir i addysgu technegau adeiladu gwyrdd ac adeiladu ar y safle, ac mae’r safle’n hygyrch i’r cyhoedd ac yn cynnal mwy na 50,000 o ymwelwyr a 3,000 o ddysgwyr bob blwyddyn.

Mae’r safleoedd newydd hefyd yn derbyn Arwyddion Coedwig Cenedlaethol sydd wedi’u gwneud gan Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful, gan ddefnyddio pren Cymreig a gafodd ei dorri a’i brosesu yng Nghymru.

Gallwch ddod o hyd i restr o’r safleoedd newydd isod:

Enw'r safle

Maint (hectarau)

Gardd Gymunedol a Choetir Meadow Street

0.9

Coetir Cysylltiedig St Dials

0.99

Coetir Cysylltiedig Coed Garw

2.15

Coed Tregolwyn – Colwinston Wood

0.63

Coetiroedd Pentre-Waun, Sluvad a Cwm-bwrwch - Llandegfedd

18.63

Coetir Cymunedol Blaen Bran

43.5

Gwarchodfa Natur Ynysdawela

16

Parc a Gardd Gymunedol Naturewise

2.2

Canolfan y Dechnoleg Amgen

25

Coedwig Strawberry Cottage

6.09

Fferm Brynau

96

Parc Gwledig Dyfroedd Alun

152

Coed Felenrhyd a Llennyrch

144.01

Coed Whitton ar Fferm Ymddiriedolaeth Amelia

12

Cyttir Mawr

6.44

Coed Bryn Berthynau

43.68

Coed Hafod

21.9

Parc a Llwybr Natur Jiwbilî

10

 

Diweddariad Mis Gorffennaf 2024

Ar 19 Gorffennaf, roedd yn bleser gennym groesawu 9 coetir arall i Goedwig Genedlaethol Cymru, gan helpu i ehangu’r rhwydwaith a dod â buddion amgylcheddol, iechyd a lles hirdymor i gymunedau ar draws Cymru.

Mae ychwanegu’r safleoedd newydd hyn yn dod â chyfanswm y coetiroedd y tu allan i Ystad Goetir Llywodraeth Cymru i 37, sy’n gorchuddio dros 3000 hectar.

Yn Ne Cymru, mae gennym Byllau a Choetiroedd Beaufort a reolir ar y cyd gan Gymdeithas Cadwraeth Pyllau a Choetiroedd Beaufort Hill, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

Mae gan y coetir hwn sy’n hafan i fywyd gwyllt, gnewyllyn eang o wirfoddolwyr ac mae’n llawer o gefnogaeth gan ysgolion a sefydliadau lleol fel Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent a Groundwork Cymru. Mae gwelliannau i lwybrau ac arwyddion dehongli ledled y safle yn golygu bod hwn yn safle hygyrch sydd wedi'i gysylltu'n dda â'r gymuned.

Mae coetiroedd gogledd Cymru yn cynnwys Y Winllan, Plas Glyn y Weddwsy’n safle unigryw yn rhwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru, gan ei fod yn cyfuno’r celfyddydau a’r coetir drwy ddefnyddio gweithgareddau addysgol ac artistig. Mae’n cynnwys amffitheatr goedwig awyr agored lle cynhelir cyfres o gyngherddau a pherfformiadau dros y haf.

Mae’r arwyddion dehongli ar y safle yn annog archwilio drwy ddilyn ei lwybrau niferus, gan gynnwys Llwybr Arfordir Cymru, ei fioamrywiaeth a’i arlwy gelfyddydol.

Gallwch ddod o hyd i restr o safleoedd isod:

Diweddariad Mai 2024 — Dros 100 o safleoedd Coedwigoedd Cenedlaethol yng Nghymru erbyn hyn!

Ar 10 Mai roeddem yn falch iawn o groesawu 6 coetir arall i Goedwig Genedlaethol Cymru, gan ddod â nifer y safleoedd sydd wedi ymuno â'r rhwydwaith i dros 100.

Mae'r 6 choetir yn cwmpasu ardal o bron i 250 hectar o faint, ac yn cynnig amrywiaeth o fuddion unigryw - o ardaloedd gwarchodedig sy'n gynefin pwysig i'n bywyd gwyllt, i ardaloedd sy'n cynnig mannau gwyrdd gwerthfawr i bobl eu mwynhau. 

Yn y De, mae gennym Goedwig Penllergaer - safle hanesyddol ar gyrion Abertawe - gyda dros 100 hectar o goetiroedd, a 7 milltir o deithiau cerdded drwyddynt. Mae’r goedwig yn ymestyn ar hyd dyffryn afon Llan ac fe'i rheolir gan Ymddiriedolaeth Penllergaer - sydd wrthi’n trawsnewid y coetiroedd hynafol drwy waith adfer. Mae gan y safle grŵp ffrindiau mawr a gweithgar - 400 o aelodau a mwy na 100 o wirfoddolwyr sy'n helpu i gynnal a rhedeg y fenter boblogaidd hon ar gyfer y gymuned ac ymwelwyr.

Yn y Gogledd, mae gennym Goed Cwningar ym Mhowys.  Mae'r coetir hwn wedi gweld trawsnewidiad ers i'r perchennog presennol brynu'r safle. Mae'r coetir wedi dod yn un amrywiol iawn - a chaiff ei reoli mewn ffordd weithredol iawn, gyda chyfraniadau rheolaidd gan wirfoddolwyr a grwpiau cymunedol. Mae Canoflan Sgiliau Coetir  o fewn y safle sy’n darparu rhaglen eang o hyfforddiant sgiliau coetir a chynhyrchion coedwig. Mae'r safle wedi'i gysylltu'n dda â'r pentref lleol gyda llwybrau cyhoeddus sydd hefyd yn cysylltu’n dda â'r dirwedd ehangach.

Gallwch ddod o hyd i restr o safleoedd isod:

Enw'r safle

Maint (hectarau)

Coedlan y Castell, Y Fenni

0.99

Coed Cwm George a Choed Casehill

84.43

Castell y Waun

22.4

Coed Cwningar

23

Coed Rhyal

5.39

Coedydd Dyffryn Penlle’r-gaer

112

Diweddariad Mawrth 2024 - Croesawu 7 coetir ychwanegol i'r Goedwig Genedlaethol

Ar 1 Mawrth roedd yn bleser gennym groesawu 7 coetir arall i Goedwig Genedlaethol Cymru!

Mae’r 7 coetir yn cwmpasu ardal o bron i 16000 hectar ac yn cynnig amrywiaeth o fuddion unigryw – o ardaloedd coedwigaeth masnachol sy’n helpu i gefnogi’r diwydiant pren a’r economi yng Nghymru, i safle’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sy’n cynnig man gwyrdd gwerthfawr a gweithgareddau hamdden i ymwelwyr, gan gynnwys cyfeiriannu a beicio mynydd.

Mae'r coedwigoedd masnachol yn enghraifft o Goedwigaeth Gorchudd Di-dor. Mae’r ddau safle wedi’u hardystio gan yr FSC ac wedi ennill gwobrau, gyda Bryn Arau Duon yn ennill gwobr Rhagoriaeth mewn Coedwigaeth RFS yn 2015, a Choed Preseli yn ennill y wobr Aur ar gyfer Coedwriaeth yn yr un flwyddyn.

Gallwch ddod o hyd i restr o safleoedd isod:

Enw'r safle

Maint (hectarau)

Coed y Werin

11.5

Bryn Arau Duon

680

Nant y Garreg

31.33

Coed Tudor

2.83

Coed y Parc

56.16

Ystad Goetir Ystagbwll

278

Coed Preseli

535

Cyfanswm arwynebedd (hectarau)

1594.82

Diweddariad Tachwedd 2023 - Cyhoeddi’r coetiroedd cyntaf i ymuno â’r Goedwig Genedlaethol drwy’r cynllun statws 

Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford a'r Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James, gyda rhai o'r rheolwyr coetir yn y digwyddiad ym mis Tachwedd

Ar 9 Tachwedd, roeddem yn falch iawn o allu croesawu’r coetiroedd cyntaf i ymuno â rhwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru drwy’r cynllun statws.

Cafodd y coetiroedd eu cyhoeddi gan y Prif Weinidog Mark Drakeford a Gweinidog yr Amgylchedd Julie James, yn ystod ymweliad â Pharc Gwledig Bryngarw.

Mae'r 15 coetir yn cwmpasu ardal o bron i 800 hectar ac maent yn amrywio o ran maint o Ardd Furiog Erlas yn Wrecsam i goetiroedd mwy fel y rhan o Goed Gwent yn ne-ddwyrain Cymru sy’n cael ei rheoli gan Coed Cadw.

Gallwch ddod o hyd i restr lawn o'r holl goetiroedd sy'n rhan o'r Goedwig Genedlaethol yma

Dolenni defnyddiol

I ddysgu mwy am y cynllun a sut i wneud cais, cliciwch yma:

Coedwig Genedlaethol Cymru: safleoedd coetiroedd | LLYW.CYMRU

Mae cyllid ar gael drwy wahanol opsiynau i helpu safleoedd i fodloni Canlyniadau’r Goedwig Genedlaethol i Gymru neu i wella safleoedd y Goedwig Genedlaethol. Gall y tîm helpu i roi cyngor i chi ar y cynlluniau perthnasol a chefnogi ceisiadau am y Grant Buddsoddi mewn Coetir neu Coetiroedd Bach.

Ardaloedd

  • Pob Ardal

Cynulleidfaoedd

  • Management

Diddordebau

  • Forest Management