Gwybodaeth am waith coedwig Cefn Coed Pwll Du (Caerffili)

Ar gau 12 Ebr 2023

Wedi'i agor 13 Ebr 2022

Trosolwg

Diweddariad 20/03/23

Mae gwaith cynaeafu i gael gwared ar goed llarwydd sydd wedi'u heintio â Phytophthora ramorum (clefyd llarwydd) o'r coetir bellach wedi'u cwblhau.

Mae ein tîm Rheoli Tir ar hyn o bryd yn gweithio i gael gwared ar Goed Ynn wedi’u heintio ar hyd ochrau'r ffyrdd a llwybrau troed. Dilynwch unrhyw ddargyfeiriadau neu arwyddion cau sydd yn eu lle i sicrhau eich diogelwch chi a diogelwch ein contractwyr.

Dysgwch fwy am ein dull o fynd i'r afael â chlefyd llarwydd a chlefyd coed Ynn 

Gwyliwch ein fideo am fod yn ddiogel yn ein coedwigoedd

Bydd gwaith tyfu tir i baratoi'r tir ar gyfer plannu yn dechrau yn ddiweddarach y mis hwn.

Unwaith y bydd yr ardal wedi'i pharatoi, bydd yn cael ei phlannu â nifer fawr o eginblanhigion derw fel rhan o'n rhaglen blannu, gan ddilyn dull plannu dwysedd uchel.

Bydd treial gweithredol ar ail-stocio'r coetir trwy hau mes derw yn cael ei osod ar ddiwedd mis Mawrth. Bydd canlyniad y treial yn ein helpu i ddeall sut i sefydlu coetir derw gyda mes yn hytrach na gydag eginblanhigion o feithrinfa blanhigion.

Helpwch ni i roi’r cyfle gorau i’r safle oroesi, trwy ddilyn unrhyw arwyddion a allai fod yn eu lle a thrwy gadw cŵn a cheffylau draw o’r lleiniau deialu.

Diweddariad 12/04/2022

Mae gwaith cwympo coed yn digwydd er mwyn cydymffurfio â Hysbysiad Iechyd Planhigion a gyhoeddwyd ar gyfer y coed llarwydd yn y coetir. Mae’r coed llarwydd wedi’u heintio â Phytophthora ramorum (clefyd y llarwydd).

Mae ein contractwyr bellach yn agosáu at ddiwedd eu gwaith cwympo coed yn yr ardal o’r coetir sy’n agos at y maes parcio deheuol.

Mae safleoedd cynaeafu byw yn arbennig o beryglus, felly er eich diogelwch chi, a diogelwch ein gweithwyr, mae’n bwysig eich bod yn dilyn arwyddion a gwyriadau sydd mewn lle hyd yn oed os nad ydych chi’n gallu clywed na gweld unrhyw weithgarwch.

Er mwyn lleihau ar y tarfu ar adar sy’n nythu, rydyn ni’n monitro ac arolygu’r coetir yn ofalus am unrhyw arwyddion o nythod adar.

Ailblannu

Mae CNC yn rheoli ei goetiroedd yn gynaliadwy ac wedi’i ardystio o dan Gynllun Ansawdd Coetiroedd y Deyrnas Gyfunol.

Sefydlir coed newydd yn lle’r rhai y byddwn yn eu torri.

Mae’r goedwig hon wedi’i dynodi yn Blanhigfa ar Safle Coetir Hynafol.

Polisi Llywodraeth Cymru yw adfer y safleoedd hyn ac felly coed llydanddail brodorol fydd y rhai newydd.

Caiff y safleoedd dan sylw eu hail-goedio drwy gyfuniad o blannu ac adfywiad naturiol. Bydd hynny’n sicrhau dwysedd priodol yn y goedwig ac yn golygu bod y coed yn addasu’n dda i’w hamgylchedd a thyfu’n gryf yn y dyfodol.

Cyflwr y tir

Oherwydd y dull cynaeafu, bydd rhai tocion yn cael eu gadael ar y safle.

Bydd mwyafrif y coed yn yr ardal dorri yn cael eu winsio i beiriant prosesu sydd uwchben yr ardal dorri. Mae hyn yn tueddu i arwain at safle gweddol glir gan fod y tocion yn cael eu gadael ar frig y safle. Fodd bynnag, gan ddibynnu ar ansawdd y pren, mae’n bosibl y bydd malurion yn cael eu gadael ar y safle. Os yw'r pren wedi'i heintio â chlefyd y llarwydd ers peth amser, gall canghennau/coesynnau fod yn fregus a thorri yn ystod y broses winsio.

Os oes ardaloedd gwastad, bydd y rhain yn cael eu cynaeafu â pheiriant. Bydd y tocion yn cael eu gosod o flaen y peiriant i leihau’r difrod i’r ddaear drwy gywasgiad. Bydd rhesi o docion wedyn ar draws y safle lle gyrrwyd y peiriant.

Bydd perygl tân y safle yn cael ei asesu yn ystod y gwaith ac ar ôl ei gwblhau.

Tymor nythu adar

Cyn i'r gwaith ddechrau, buom yn gweithio'n agos gydag arolygwr adar i arolygu'r safle’n drylwyr i ganfod unrhyw adar sy'n nythu. Bydd parth gwahardd yn cael ei osod o amgylch unrhyw nythod a ganfyddir a bydd y timau'n gweithio o amgylch yr ardal nes bod yr adar wedi gorffen bridio ac wedi gadael y nyth.

Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar ein gwefan.

Ardaloedd

  • Ystrad Mynach

Cynulleidfaoedd

  • Management

Diddordebau

  • Rheoli Coedwig