Pedair Afon LIFE – Prosiect Adfer Cored Aberhonddu

Yn cau 31 Rhag 2026

Wedi agor 1 Hyd 2024

Trosolwg

I ddarllen y dudalen hon yn Saesneg, cliciwch yma.

Nod Prosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw gwella Cored Aberhonddu ar gyfer eogiaid yr Iwerydd ifanc a phoblogaethau eraill o bysgod yn afon Wysg.

Bydd y prosiect yn gosod ysgol gleisiaid newydd i helpu eogiaid ifanc (gleisiaid) a rhywogaethau eraill o bysgod i symud yn rhwydd i lawr yr afon, heibio’r gored, ac allan i’r môr.

Bydd y gwaith yn dechrau yr haf hwn (mis Mehefin 2025).

Gleisiad yw’r enw a roddir ar y cam ym mywyd eog ifanc pan fydd yn mudo i’r môr.

Llun uchod: Gleisiad (cydnabyddiaeth Jack Perks Photography).

Ar hyn o bryd, mae Cored Aberhonddu yn cael ei chydnabod fel rhwystr sylweddol i bysgod mudol sy’n nofio i lawr yr afon i gyrraedd y môr.

Mae astudiaethau diweddar wedi cofnodi heigiau o leisiaid wedi'u dal uwchben y gored, yn enwedig pan fydd llifoedd yn isel. Mae hyn yn gohirio eu mudo, gan eu gwneud yn agored i afiechyd ac ysglyfaethu.

Mae gleisiaid yn mudo i lawr yr afon i'r môr yn y gwanwyn (yn ystod mis Ebrill a mis Mai), ac mewn blynyddoedd pan fo’r llifoedd yn isel yn ystod y gwanwyn maent wedi cael anhawster pasio dros adeileddau fel Cored Aberhonddu.

Mae eogiaid a physgod eraill yn yr afon bellach yn ei chael hi'n anodd ac mewn perygl o ddiflannu yng Nghymru oherwydd colli cynefinoedd, rhwystrau o waith dyn, llygredd, a newid yn yr hinsawdd.

Bydd yr ysgol newydd i leisiaid yn ategu’r ysgol bysgod Larinier bresennol sydd ar ochr bellaf y gored, gan ganiatáu mynediad haws i leisiaid sy’n mudo i fyny'r afon ac i lawr yr afon.

Llun uchod: dyluniad yr ysgol newydd arfaethedig i leisiaid.

Pwysigrwydd afon Wysg a Chored Aberhonddu

Mae afon Wysg yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA), sy'n golygu ei bod o bwysigrwydd rhyngwladol oherwydd ei bywyd gwyllt a phlanhigion fel eogiaid yr Iwerydd, llysywod pendoll, gwangod/herlod, pennau lletwad, dyfrgwn a chrafanc y dŵr.

Ar un adeg, roedd afon Wysg yn un o afonydd gorau Cymru i ganfod eogiaid, ond y dyddiau hyn mae nifer yr eogiaid a ddaliwyd gan bysgotwyr yn is nag erioed.

Mae eogiaid bellach mewn trafferth ac mewn perygl o ddiflannu yn rhai o afonydd Cymru.

Mae eogiaid yr Iwerydd yn treulio eu cyfnod ifanc mewn afonydd cyn mudo i'r môr i dyfu ac aeddfedu, ac yna'n dychwelyd i'w hafon wreiddiol i silio.

Mae mynediad rhydd a dirwystr rhwng yr afon a'r môr yn hanfodol er mwyn iddynt gwblhau eu cylch bywyd. I ddarganfod mwy am gylch bywyd eogiaid, sganiwch y cod QR hwn.

Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog

Mae Cored Aberhonddu yn cyfeirio dŵr i Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog a hefyd yn helpu i reoli lefel yr afon ar gyfer y trefi a’r pentrefi i lawr yr afon.

Mae Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog yn rhedeg am 35 milltir (56 km) i Gasnewydd. Adeiladwyd y gamlas rhwng 1797 a 1812 i gysylltu Aberhonddu â Chasnewydd ac aber afon Hafren.

Ailddatblygwyd ochr y gamlas yn Aberhonddu yn y 1990au ac mae bellach yn safle dau fasn angori a Theatr Brycheiniog.

Eogiaid yn afon Wysg

Yn 2015 a 2016, bu cwymp trychinebus yn nifer yr eogiaid ifanc yn afon Wysg.

Ychydig iawn o eogiaid ifanc, os o gwbl, a ddarganfuwyd mewn ardaloedd i fyny’r afon lle'r oeddent yn arfer bridio. Y dyddiau hyn, mae nifer yr eogiaid sy'n cael eu dal yn yr afon ar eu hisaf erioed.

Yn 2002, gosodwyd ysgol bysgod Larinier (a enwyd ar ôl y peiriannydd o Ffrainc a’i dyluniodd gyntaf) ar lan dde’r gored, gan alluogi mynediad haws i eogiaid nofio i fyny’r afon i fridio.

Fodd bynnag, ni fydd gleisiaid sy'n mudo i lawr yr afon yn defnyddio ysgol bysgod Larinier gan ei bod ar ochr anghywir yr afon ar gyfer mudo i lawr yr afon.

Mae'n gweithio ar gyfer mudo i fyny'r afon gan fod y gored ar ongl, felly mae'r pysgod yn dilyn y llif i'r gornel ac i fyny'r ysgol.

Yn yr un modd, gyda mudo i lawr yr afon, ac yn arbennig mewn llifoedd isel, mae'r gleisiaid yn taro pen y gored, yn dilyn y llif i lawr i'r gornel (ger y man tynnu dŵr i’r gamlas) ac yn ymgasglu yma. 

Yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud

Mae prosiect Pedair Afon LIFE yn gweithio i ddiogelu ac adfer poblogaethau o eogiaid yr Iwerydd yn afon Wysg.

Byddwn yn gwneud hyn drwy wella amodau mudo i bysgod (i lawr yr afon yn bennaf).

Darllenwch fwy am ein cynlluniau ar gyfer Cored Aberhonddu ar y panel isod.

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Dywedwch fwy wrthyf am fudo i lawr yr afon ger Cored Aberhonddu

Gleisiad yw’r enw a roddir ar y cam ym mywyd eog ifanc pan fydd yn mudo i’r môr. Bydd gleisiaid yn mudo i lawr yr afon i’r môr yn y gwanwyn ac, mewn blynyddoedd pan fo’r llifoedd yn isel yn ystod y gwanwyn, gallant brofi anawsterau wrth basio dros adeileddau fel Cored Aberhonddu.

Mae astudiaethau diweddar wedi cofnodi heigiau o leisiaid wedi'u dal uwchben y gored, yn enwedig pan fydd llifoedd yn isel. Mae hyn yn gohirio eu mudo, gan eu gwneud yn agored i afiechyd ac ysglyfaethu.

Porth newydd i'r môr

Bydd prosiect Pedair Afon LIFE yn gosod ysgol gleisiaid newydd ar y gored. Bydd yr ysgol yn creu llwybr i deithio (neu sianel) drwy'r gored ar gyfer y gleisiaid sy'n teithio i lawr yr afon heibio'r gored.

Bydd yr ysgol hon ar gyfer gleisiaid yn ategu’r ysgol bysgod Larinier bresennol ar ochr bellaf y gored, gan sicrhau bod pysgod yn gallu teithio i fyny ac i lawr yr afon yn ystod cyfnodau pwysig o'u cylch bywyd.

Y newyddion diweddaraf

Mis Awst 2024

Cynhaliwyd arolygon adeileddol ym mis Awst 2024.

Mis Rhagfyr 2024

Cynhaliwyd sesiwn galw heibio yn Y Gaer, Glamorgan Street, Aberhonddu, LD3 7DW, ddydd Iau 5 Rhagfyr rhwng 2pm a 4pm a chafwyd cyflwyniad wedyn rhwng 5pm a 6pm. Rhoddodd hyn gyfle i’r cyhoedd weld dyluniadau a siarad â’r tîm.

Cwestiynau cyffredin

A fyddwch yn ymgynghori ar gynlluniau ar gyfer y cynllun?

Byddwn yn cynnal sesiynau galw heibio yn y gymuned i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Powys, Cyngor Tref Aberhonddu, Ymddiriedolaeth Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog, a Cadw.

A oes gennych chi arian i adeiladu’r cynllun yn 2025?

Ariennir y prosiect Pedair Afon LIFE gan raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Dŵr Cymru.

Bydd y gwaith hwn yn cael ei ariannu'n llawn gan y prosiect fel rhan o'u camau gweithredu.

Pam ydych chi'n gwneud y gwaith hwn?

Mae afon Wysg a'i phrif lednentydd wedi'u dynodi'n Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) afonol, sy'n golygu ei bod o bwysigrwydd rhyngwladol oherwydd ei bywyd gwyllt a'i phlanhigion fel eogiaid yr Iwerydd, llysywod pendoll, gwangod/herlod, pennau lletwad, dyfrgwn a chrafanc y dŵr.

Ar un adeg, roedd afon Wysg yn un o’r afonydd gorau i eogiaid yng Nghymru, gyda physgota yn cyfrannu at yr economi leol. Mae rhywfaint o bysgota am frithyllod y môr yn dal i gael ei wneud yn afon Wysg hefyd.

Mae eogiaid a physgod eraill yn yr afon bellach yn ei chael hi'n anodd ac mewn perygl o ddiflannu. Yn 2015 a 2016, bu cwymp trychinebus yn nifer yr eogiaid ifanc yn yr afon. Ychydig iawn o eogiaid ifanc, os o gwbl, a ddarganfuwyd mewn ardaloedd lle'r oeddent yn arfer silio. Y dyddiau hyn, mae nifer yr eogiaid sy'n cael eu dal yn yr afon ar eu hisaf erioed.

Pam fod niferoedd yr eogiaid wedi gostwng cymaint yn afon Wysg?

Mae niferoedd eogiaid yr Iwerydd wedi bod yn gostwng ar draws y DU ers degawdau. Yn afon Wysg a'i llednentydd, bu cwymp trychinebus yn nifer yr eogiaid ifanc yn 2015/16. Ychydig iawn o eogiaid ifanc, neu ddim o gwbl, oedd gan ardaloedd mawr o lednentydd silio a ddefnyddiwyd yn aml yn y gorffennol. Nid yw'r niferoedd wedi gwella'n sylweddol ers y cwymp hwn, ac mae nifer yr eogiaid sy’n cael eu dal gan wialen bellach yn is nag erioed o'r blaen hefyd.

Onid oes ysgol bysgod yn y gored yn barod?

Mae Cored Aberhonddu yn cyfeirio dŵr i Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog a hefyd yn helpu i reoli lefel yr afon ar gyfer y trefi a’r pentrefi i lawr yr afon. Ond mae'r gored yn cael ei chydnabod fel rhwystr sylweddol i bysgod mudol sy'n nofio i fyny ac i lawr yr afon.

Yn 2002, gosodwyd ysgol bysgod Larinier (a enwyd ar ôl y peiriannydd o Ffrainc a'i dyluniodd gyntaf) ar lan dde'r gored, gan alluogi eogiaid i nofio i fyny'r afon i fridio. O ganlyniad, mae eogiaid yn gallu cyrraedd yr afon a'r llednentydd i fyny'r afon yn hawdd i silio.

Beth am fudo i lawr yr afon?

Gleisiad yw’r enw a roddir ar y cam ym mywyd eog ifanc pan fydd yn mudo i’r môr. Mae llawer o waith wedi’i wneud i ddeall effeithiau rhwystrau ar eogiaid yn mudo i fyny’r afon, ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi bod yn edrych ar yr effeithiau ar fudo i lawr yr afon.

Fel arfer, bydd gleisiaid yn mudo i lawr yr afon i’r môr yn y gwanwyn ac, mewn blynyddoedd pan fo’r llifoedd yn isel yn ystod y gwanwyn, gallant brofi anawsterau wrth basio dros adeileddau fel Cored Aberhonddu.

Mae astudiaethau diweddar wedi cofnodi heigiau o leisiaid wedi'u dal uwchben y gored, yn enwedig pan fydd llifoedd yn isel, sy'n achosi oedi wrth fudo, gan eu gwneud yn agored i afiechyd ac ysglyfaethu.

Sut bydd ysgol newydd i leisiaid yn helpu?

Bydd prosiect Pedair Afon LIFE yn creu ysgol newydd i leisiaid ar lan chwith y gored. Bydd yr ysgol yn creu llif dynesu llyfnach ar gyfer y gleisiaid sy'n teithio i lawr yr afon heibio'r gored.

Bydd yr ysgol hon ar gyfer gleisiaid yn ategu’r ysgol bysgod Larinier bresennol ar ochr bellaf y gored, gan sicrhau bod pysgod ifanc yn gallu teithio i fyny ac i lawr yr afon yn ystod cyfnodau pwysig o'u cylch bywyd.

A fyddwch chi'n tynnu pren mawr sy'n sownd ar ben y gored?

Byddwch yn sylwi ar goed mawr a phren o amgylch y gored; nid yw hyn o reidrwydd yn beth drwg ac mae'n cynnig ystod eang o fanteision i'r afon a bywyd gwyllt.

Ni fydd y prosiect yn tynnu pren mawr o'r gored fel rhan o'r gwaith hwn.

A fydd y prosiect yn achosi unrhyw lifogydd neu'n lleihau’r perygl o lifogydd yn yr ardal?

Nid yw’r cynllun wedi’i ddylunio’n benodol i leihau’r perygl o lifogydd. Fodd bynnag, gallai adfer prosesau afon naturiol, ailgysylltu gorlifdiroedd, ac arafu a lledaenu llifoedd llifogydd dros ardal fwy i fyny’r afon fod â buddion cysylltiedig drwy reoli lefelau dŵr i lawr yr afon.

Mae arolygon hydrolegol wedi'u cynnal i asesu llifoedd afon ac ni fydd y gwaith yn achosi unrhyw newidiadau i lifoedd yr afon.

Cysylltwch â ni

I gael rhagor o wybodaeth, gallwch anfon neges e-bost at y tîm yn uniongyrchol yma: 4AfonLIFE@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol: FacebookX ac Instagram

 

Cysylltwch â ni: 4AfonLIFE@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Ardaloedd

  • Usk

Cynulleidfaoedd

  • Fly-fishing
  • Rivers
  • Flooding
  • Llifogydd
  • Community Volunteers
  • Gwirfoddolwyr Cymunedol
  • Citizens
  • citizens
  • water companies
  • NFU
  • DCWW
  • Anglers
  • Coal Authority
  • Wales Biodiversity Partnership

Diddordebau

  • Flooding
  • Llifogydd
  • Community Voulnteering
  • Gwirfoddoli Cymunedol
  • Community Engagement
  • WFD
  • water framework directive
  • water planning
  • river basin planning