Ym mis Rhagfyr 2015, cytunwyd ar Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Kunming-Montreal newydd yn COP15. Mae’n ofynnol i bob parti, gan gynnwys y DU i ddatblygu Strategaeth Fioamrywiaeth Genedlaethol i amlinellu eu dull tuag at ddiwallu’r nodau a’r targedau a nodir yn y fframwaith newydd.
Yng Nghymru, yn ystod yr Archwiliad Dwfn ar Fioamrywiaeth, cytunodd y Gweinidog Newid Hinsawdd i ddiwygio’r Polisi Adnoddau Naturiol a’n Strategaeth Fioamrywiaeth Genedlaethol (y Cynllun Gweithredu Adfer Natur fel y’i gelwir ar hyn o bryd) er mwyn adlewyrchu argymhellion yr Archwiliad Dwfn a’r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang wedi 2020.
I gynorthwyo â’r gwaith diwygio, rydym yn cynnal holiadur i ddeall barn ynghylch y NRAP presennol. Gwneir hyn er mwyn ein helpu i ddysgu gwersi ac i’n galluogi i ddatblygu ein strategaeth i fodloni gofynion byd-eang ac argymhellion yr Archwiliad Dwfn drwy gyfrwng dull Cymru ar y Cyd.
Mae’r holiadur hwn yn canolbwyntio ar geisio barn gychwynnol ynghylch amcanion, monitro a’r broses o ymwneud â’r NRAP presennol yn ogystal â barn ynghylch y gwaith o’i lywodraethu drwy Grŵp Gweithredu’r NRAP. Defnyddir yr holiadur hwn i gasglu eich barn cyn cynnal gweithdai pellach. Bydd crynodeb dienw o’r arolygon a chanfyddiadau’r gweithdai yn cael ei rannu. Bydd canfyddiadau’r ymarferion hyn yn fodd o gefnogi prosesau cynnal Grŵp Gweithredu’r NRAP yn y dyfodol a’r NRAP wrth symud ymlaen.
Share
Share on Twitter Share on Facebook