Rydyn ni eisiau clywed gan bobl ledled Cymru gyfan oherwydd mae eich barn yn bwysig i ni.
Gall cwblhau'r arolwg Natur a Ni ein helpu i ddeall y materion allweddol sy'n bwysig i chi. Cliciwch ar 'Dechrau'r arolwg' isod i gychwyn. Os oes angen mwy o amser arnoch i ateb y cwestiynau, does dim rhaid i chi ei gwblhau ar yr un pryd, gallwch ei gadw a dod yn ôl yn nes ymlaen.
Gallwch hefyd lawrlwytho fersiwn Word o'r arolwg a'i e-bostio i naturani@cyfoethnaturiol.cymru ar ôl i chi ei gwblhau. Neu gallwch lawrlwytho fersiwn o'r arolwg y gellir ei hargraffu a'i bostio'n ôl atom. Os hoffech gael cymorth i gwblhau'r arolwg, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r un cyfeiriad e-bost.
Mae'r arolwg yn rhan o gyfres lawer ehangach o ddigwyddiadau cenedlaethol ar-lein ym mis Mawrth ac Ebrill. Gobeithio y byddwch chi'n cymryd rhan ym mha bynnag ffordd sydd fwyaf addas i chi. Gallwch hefyd wirfoddoli i gymryd rhan yn un o'n grwpiau trafod ar-lein.
Ac, wrth gwrs, gallwch chi gymryd camau gweithredu nawr – edrychwch ar yr adnoddau eraill a allai helpu ar hafan Natur a Ni.
Share
Share on Twitter Share on Facebook