Cwmpo coed llarwydd yng Nghaerffili

Ar gau 31 Rhag 2023

Wedi'i agor 10 Mai 2021

Trosolwg

Diweddariad 12/04/2023 — Llwybrau troed yng nghoetir Llanbradach 

Tra bod ein gwaith cwympo coed yng nghoetiroedd Llanbradach wedi cael ei atal i ganiatáu i dymor nythu’r adar orffen ac osgoi tarfu ar adar sy'n nythu, rydym wedi bod mewn cysylltiad agos â'r prynwr a'r contractwr i drafod y posibilrwydd o adfer y llwybrau troed sydd heb eu dynodi yn y coetir dros yr haf.

Yn anffodus, oherwydd amseriadau a chyfyngiadau cadwraeth, ni allwn wneud hynny ar yr achlysur hwn.

Er nad ydym yn hoffi cyfyngu mynediad i ardaloedd o'r coetir, sy’n lle gwerthfawr i ymwelwyr a’r gymuned leol, mae'n bwysig ein bod yn cydymffurfio â rheoliadau amgylcheddol a’n bod yn cymryd y rhagofalon angenrheidiol, yn enwedig ar gyfer y rhywogaethau hynny sydd angen eu gwarchod fwyaf.

I ba rannau o'r coetir y gallwch fynd?

Mae'r rhan fwyaf o'r coetir yn agored i'r cyhoedd yn gyfreithiol ac mae modd mynd trwy ardaloedd gyda gofal.

Sylwer, fodd bynnag, fod yr hawl tramwy cyhoeddus yng ngogledd y coetir wedi'i dargyfeirio i ffordd y goedwig er mwyn osgoi ardal y chwarel.

Mae hyn wedi'i nodi ar y map dargyfeirio isod:

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Hoffem bwysleisio ein bod yn monitro'r safle'n rheolaidd ac y bydd y gwaith yn ailddechrau ar y safle cyn gynted ag y bo modd.

Unwaith y bydd gwaith cwympo coed wedi'i gwblhau, bydd y llwybrau a'r traciau yn cael eu hadfer yn llawn. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi drwy dudalen y prosiect hwn a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol: @CyfNatCymDD

Diolch am eich amynedd yn ystod y cyfnod hwn.

Diweddariad 20/03/23

Llanbradach a De Westend:

Er ein bod yn falch o allu dweud bod yr heriau economaidd blaenorol, a oedd yn ein hwynebu o fewn y farchnad bren bellach wedi setlo, rydym bellach wedi cyrraedd tymor bridio adar (Mawrth – Awst) ac ni allwn weithio ar y safle, oherwydd y risg o aflonyddu ar adar sy’n nythu.

Mae'r gwaith wedi'i amserlennu i ddechrau ddiwedd Gorffennaf - Awst, yn dibynnu ar bryd mae'r adar wedi magu plu a gadael eu nythod.

Dysgwch fwy am sut rydym yn diogelu adar gwyllt yn ystod gwaith yn y goedwig

De Wylie:

Sylwch fod rhai staciau pren o gwmpas y coetir o hyd o ganlyniad i'r gwaith torri coed diweddar. Disgwyliwn i'r rhain gael eu symud o’r safle o fewn y ddau fis nesaf.

Cofiwch y gall staciau pren fod yn beryglus felly er eich diogelwch, peidiwch â dringo arnynt.

Yn anffodus, nid yw'r prynwr sydd wedi'i gontractio i gwblhau'r gwaith cwympo sy'n weddill yn gallu gwneud hynny ar hyn o bryd. Bydd ein swyddogion coedwigaeth yn ail-becynnu'r pren sy'n sefyll ar y safle.

Bydd cynllunio coedwig ar gyfer y coetir hwn yn dechrau unwaith y bydd y contract presennol wedi dod i ben tua diwedd y flwyddyn. Rydym yn rhagweld dyddiad ailddechrau yn hwyr yn 2024/dechrau 2025.

Hoffem roi sicrwydd i drigolion ac ymwelwyr â’r coetiroedd nad yw’r gwaith torri coed wedi mynd yn angof, ond yn anffodus efallai y bydd y gwaith yn cymryd ychydig yn hirach nag a ragwelwyd yn wreiddiol.

Byddwn yn eich diweddaru trwy ein tudalen prosiect a sianeli cyfryngau cymdeithasol (@CyfNatCymDD). Diolch am eich amynedd.

Diweddariad ar waith coedwigaeth 30/09/2022

Rydym wedi gorfod oedi ein gwaith coedwigaeth yng nghoetiroedd Wyllie, de Westend a Llanbradach am y tro, oherwydd heriau economaidd ar hyn o bryd yn y farchnad bren.

Rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad agos â'n contractwyr a'n prynwyr, ac yn gweithio'n galed i ddatrys y materion hyn, fel y gall gwaith ailddechrau cyn gynted â phosibl.

Hoffem roi sicrwydd i drigolion ac ymwelwyr â'r coetiroedd drwy gadarnhau nad yw'r gweithrediadau cwympo coed wedi mynd yn angof, ond yn anffodus gallai’r gwaith gymryd ychydig yn hirach na'r disgwyl yn wreiddiol.

Byddwn yn rhoi’r diweddaraf i chi ar dudalen y prosiect a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol (@CyfNatCymDD) Diolch am eich amynedd.

Mynediad i’r coedwigoedd

Wyllie a De Westend

Mae llwybrau troed a Hawliau Tramwy Cyhoeddus yng nghoetiroedd Wyllie a de Westend yn parhau i fod ar agor i'r cyhoedd, ond er mwyn sicrhau eich diogelwch a diogelwch ein contractwyr, gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd sylw o unrhyw arwyddion dargyfeirio neu arwyddion gweithredol sydd ar y safle.

Llanbradach

Er nad ydym yn hoff o gau mynediad i'n coedwigoedd a'n coetiroedd, sy'n rhoi mwynhad i lawer, yn anffodus, dydyn ni ddim yn gallu agor y llwybrau troed yn Llanbradach ar hyn o bryd oherwydd problemau iechyd a diogelwch ac mae'r safle'n dal i fod ar gau am y tro.

Map yn dangos yr ardaloedd yr effeithir arnynt yn West End 

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map yn dangos yr ardaloedd yr effeithir arnynt yn Llanbradach

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Map yn dangos yr ardaloedd yr effeithir arnynt yn Y Wyllie

Your browser does not support inline PDF viewing. Please download the PDF.

Mynediad i goedwigoeddNodwch fod y lliwiau ar y map yn dynodi ardaloedd y llannerch ble bydd gwaith yn digwydd o fewn y coetir

Mae'n debygol y bydd yn rhaid inni gau mynediad y cyhoedd i rai rhannau o goedwigoedd tra bydd y gwaith yn digwydd. Mae safleoedd cynaeafu byw yn hynod beryglus, ac mae hyn yn angenrheidiol er mwyn diogelu diogelwch ein staff, ein contractwyr ac ymwelwyr â'r coetir.

Cadwch at y rheolau cau a'r arwyddion dargyfeirio pan fyddant ar waith.

Diweddaru 1/12/21 Yn anffodus, yn dilyn trafodaethau helaeth gyda’r prynwr, o ganlyniad i’r perygl sylweddol i ddefnyddwyr y goedwig, mae CNC wedi methu â chadw’r llwybrau cerdded cyhoeddus o fewn y goedwig ar agor drwy gydol y gwaith, hyd at ddiwedd Mai 2022 ar hyn o bryd. Felly, mewn cydweithrediad â’r Cyngor Sir, mae’r prynwr wedi cau’r llwybrau’n ffurfiol yn unol â'r Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy. Ymddiheurwn am yr anghyfleustra a gwerthfawrogwn eich amynedd wrth i’r gwaith barhau.

Cludo pren

Bydd angen i gerbydau cludo pren gael mynediad rheolaidd i'r coetiroedd i gymryd pren a gynaeafir o'r safle ymaith. Ar gyfer safleoedd sy'n agos at gymunedau, bydd uchafswm o wyth llwyth lori y dydd. Mewn ardaloedd adeiledig bydd cyfyngiad pellach hefyd ar y gweithgaredd hwn i oriau y tu allan i oriau cynnar y bore ac oriau prysur gyda'r nos.

Gweld y llwybr cludo ar gyfer Llanbradach

Your browser does not support inline PDF viewing.Please download the PDF.

Gweld y llwybr cludo ar gyfer West End a Wyllie

Your browser does not support inline PDF viewing.Please download the PDF.

 

Ailblannu

Unwaith y bydd yr holl goed llarwydd heintiedig wedi'u tynnu, rydym yn bwriadu ailblannu coed yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt. Bydd hyn yn cynnwys cymysgedd amrywiol o rywogaethau i helpu i sicrhau bod ein coetiroedd yn gallu gwrthsefyll plâu a chlefydau yn y dyfodol.

Map yn dangos cynlluniau i ailstocio yng nghoetiroedd Llanbradach

Your browser does not support inline PDF viewing.Please download the PDF.

Map yn dangos cynlluniau i ailstocio yng nghoetiroedd West End

Your browser does not support inline PDF viewing.Please download the PDF.

Map yn dangos cynlluniau i ailstocio yng nghoetiroedd y Wyllie

Your browser does not support inline PDF viewing.Please download the PDF.

Darllenwch ein cwestiynau cyffredin am ein gwaith cwympo coed.

Pam bod eich safbwyntiau o bwys

Wrth i ni baratoi i ymgymryd â'r gwaith hanfodol hwn, rydym am sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r gwaith arfaethedig, ac yn deall pam mae'n digwydd a sut y gallai effeithio arnynt.

Rhagor o wybodaeth

Byddwn yn darparu diweddariadau rheolaidd ar y dudalen hon am y gwaith wrth i'r gwaith fynd rhagddo.

Darllenwch ein cwestiynau cyffredin am ein gwaith cwympo coed.

Os hoffech gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr i gael diweddariadau rheolaidd am y gwaith, e-bostiwch SEForest.operations@naturalresources.wales

Ardaloedd

  • West End

Cynulleidfaoedd

  • Management

Diddordebau

  • Forest Management