Mae'r ddeddfwriaeth bresennol yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw un sy'n cynhyrchu hydrogen gael trwydded amgylcheddol, ni waeth beth fo'r broses neu faint o hydrogen a gynhyrchir. Mae hyn yn golygu bod rhaid i gynhyrchwyr hydrogen bach nad ydynt yn cael fawr ddim effaith ar yr amgylchedd, os o gwbl, fynd drwy'r un broses drwyddedu â gosodiadau mawr sy'n llygru. Gan gydnabod y diddordeb cynyddol mewn cynhyrchu Hydrogen Gwyrdd yng Nghymru, a’r cyfraniad cadarnhaol y gall ei wneud tuag at gyflawni’r uchelgais Sero Net, rydym yn ystyried ffyrdd o sicrhau bod mecanwaith cymesur ac effeithlon i ganiatáu mathau penodol o weithgareddau cynhyrchu hydrogen ar raddfa fach, sydd â risg hynod o isel. Rydym yn cynnig system ymgeisio ar-lein sydd wedi’i chyfyngu i ddau fath o weithgaredd cynhyrchu hydrogen ar raddfa fach.
Rhaid i ymgeiswyr gwblhau holiadur ar-lein a darparu rhywfaint o wybodaeth sylfaenol. Bydd hyn yn cynhyrchu trwydded ag amodau safonol sy'n benodol i'r cais hwnnw. Oherwydd bod y cwestiynau wedi'u cynllunio i ddiystyru unrhyw geisiadau â risg uwch, ni fydd modd cael y trwyddedau hyn oni bodlonir yr amodau canlynol:
Rydym yn fodlon, drwy fodloni'r amodau uchod, fod y risg o lygredd yn hynod o isel. Bydd angen i'r gweithredwr gydymffurfio â holl amodau'r drwydded. Ymgynghorir â'r cyhoedd ar y drwydded derfynol ond nid ar bob cais, mae hyn yn newid i'r arfer presennol.
Gan fod angen llai o waith asesu ar y math hwn o gais na'r broses bresennol, mae'r taliadau'n llai. Mae rhywfaint o waith gweinyddol i'w wneud o hyd a bydd angen cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer pob trwydded, felly er mwyn adennill ein costau codir tâl o £788. Y ffi cynhaliaeth fydd £920 y flwyddyn.
Beth rydym yn ymgynghori arno?
Rydym wedi llunio asesiad risg a thrwydded ddrafft y gallwch eu gweld ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein. Rydym yn ymgynghori i sicrhau ein bod wedi mynd i'r afael ag unrhyw bryderon a allai fod gan y cyhoedd ynghylch y newid i'r broses drwyddedu.
Share
Share on Twitter Share on Facebook