Natur am Byth! Achub Rhywogaethau ‘dan Fygythiad yng Nghymru
Mae 'Natur am Byth!' yn rhaglen flaenllaw, newydd sbon yma yng Nghymru a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru. Mae’n uno naw corff anllywodraethol amgylcheddol â Chyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu rhaglen treftadaeth naturiol ac allgymorth fwyaf y wlad i achub rhywogaethau rhag difodiant ac i ailgysylltu pobl â’r byd natur. Bydd Natur am Byth yn arwain y ffordd at adferiad byd natur drwy ddangos sut y gall holl bobl Cymru a’n bywyd gwyllt ffynnu gyda’i gilydd, drwy gyflwyno rhaglen uchelgeisiol o cadwraeth a gweithgarwch allgymorth cynhwysol ar raddfa genedlaethol ac yn yn lleol, ledled Cymru
Mae’r rhaglen yn ei chyfnod datblygu ar hyn o bryd ac rydym yn edrych i weithio, trafod, ac adeiladu perthnasoedd â chymunedau, rhanddeiliaid allweddol a phartneriaid cyflawni posib ar draws Cymru er mwyn deall yn well y cyfleoedd a’r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth ymgysylltu neu geisio ymgysylltu â byd natur, a chynnwys pobl wrth lunio ein cyfnod cyflawni 4 blynedd (yn amodol ar gymeradwyaeth cyllid).
I ddarganfod mwy ewch i Natur am Byth
Er mwyn i ni ddeall yn well y cyfleoedd a’r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth ymgysylltu neu geisio ymgysylltu â byd natur, byddem yn gwerthfawrogi’n fawr pe gallech lenwi’r holiadur byr hwn. Ni ddylai gymryd mwy na 10 munud.
Y gobaith yw, trwy nodi'r rhwystrau a'r cyfleoedd hyn, y gallwn greu cyfres o ddigwyddiadau pellgyrhaeddol, cynhwysol a deniadol yn ystod ein cyfnod cyflawni.
Diolch am gymryd yr amser, gwerthfawrogir pob ymateb yn fawr!
Share
Share on Twitter Share on Facebook