Rydym yn ceisio barn ar ein datganiad sefyllfa drafft sy'n nodi sut y byddwn yn bodloni ein dyletswydd i adolygu Datganiadau Ardal.
Mae'r datganiad sefyllfa drafft ar gael i'w lawrlwytho fel PDF ar waelod y dudalen hon.
Byddwn yn cynnal gweminar rhwng 11am a 12pm ddydd Mawrth 7 Medi i egluro natur y datganiad sefyllfa hwn ac i ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennych. Os hoffech chi fod yn bresennol, e-bostiwch SMNR@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yr iteriad cyntaf o ddatganiadau ardal ar 31 Mawrth 2020 ar ein gwefan, yn ôl y gofyniad o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Cyfoeth Naturiol Cymru / Datganiadau Ardal
Mae Adran 11(6) o'r Ddeddf yn nodi bod “Rhaid i CNC adolygu datganiadau ardal yn gyson a chânt eu diwygio ar unrhyw adeg”.
Rydym yn cyflwyno ein safbwynt drafft ar sut y bydd CNC yn rheoli gwaith er mwyn adolygu Datganiadau Ardal.
Rydym yn ceisio barn rhanddeiliaid ar sut i roi eglurder ynghylch statws Datganiadau Ardal, ac unrhyw ddiwygiadau iddynt. Bydd hyn yn cynnwys y rhesymau pam y gallent fod wedi newid pan fydd y newidiadau hynny'n digwydd.
Rydym yn arbennig o ymwybodol o'r angen i'w cadw'n unol ag unrhyw newidiadau i'r polisi adnoddau naturiol, wrth gydnabod natur ddeinamig ac ailadroddol Datganiadau Ardal sy'n gweithio ar lefel lleoliad.
Mae eich barn yn bwysig i ni wrth i ni barhau i weithio gyda'n gilydd trwy'r broses Datganiadau Ardal.
Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion i gwestiynau'r ymgynghoriad yn ogystal ag unrhyw sylwadau eraill y mae rhanddeiliaid yn eu rhoi. Disgwylir i ddatganiad sefyllfa terfynol gael ei gyhoeddi erbyn diwedd 2021.
Gweminar i egluro natur y datganiad sefyllfa hwn. Dewch i ddarganfod mwy cyn lleisio eich barn trwy'r arolwg hwn. Bydd y gweminar yn cael ei gynnal drwy Microsoft Teams.
Share
Share on Twitter Share on Facebook